ROBERTS, ROBERT (1800 - 1878), ysgolfeistr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llangeitho

Enw: Robert Roberts
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1878
Priod: Catherine Roberts (née Davies)
Rhiant: Beti Roberts
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn ymyl Tre'r Ddôl, Llangynfelyn, 1800, mab John a Beti Roberts, ond yng Nglandŵr ger Gogerddan y magwyd ef. Addolai'r teulu ym Mhenygarn. Addysgwyd ef yn Llanfihangel-genau'r-glyn, mewn ysgol ramadeg leol o fri a gedwid gan yr athro gorau o blith ysgolheigion Ystrad Meurig. Yno y meistrolodd y clasuron. Bu am gyfnod yn athro ysgol yn Staines, lle y perffeithiodd ei Saesneg; ymaelododd yn Jewin Crescent, Llundain. Pan oedd tua 40 oed, galwyd ef i ddilyn y Parch. John Jones fel ysgolfeistr yn Llangeitho. Cawsai brofiad helaeth fel areithiwr, yn enwedig ar ddirwest, ac fel arholwr ysgolion Sul. Ystyrid ei fod yn siaradwr da bob amser ar unrhyw fater, yn ysgolhaig gwych, ond yn fwy o feddyliwr nag o ddarllenwr. Cymhellwyd ef i bregethu gan y ddau flaenor, Peter Davies, y Glyn, a Dafydd Jones, Dolau Bach. Yr oedd bron yn ei gyflawn faintioli fel pregethwr pan ordeiniwyd ef yn sasiwn Aberteifi, 1847, ond dywedir iddo gynyddu mewn melyster ac mewn parch a derbyniad hyd y diwedd. Gosodai Dr. Lewis Edwards ef ymhlith y pregethwyr da i'w gwrando. Anodd ydoedd cofio'i bregethau am nas rhennid yn bennau. Sonnir am ei oedfaon mawr yn sasiynau Llantrisant, 1865, a Phontypridd, 1875, ei gyngor ordeinio yn sasiwn Llanilltyd Fawr, pryd y cynhyrfwyd llawer i edrych arno fel athro cymwys i Goleg Trefeca, a'i anerchiadau yn sasiwn Llangeitho yn 1859, ond y farn gyffredin oedd mai mewn angladdau yn ardaloedd Llangeitho, Llanddewi-brefi, a Thregaron y ceid ef ar ei orau. Ef oedd llywydd cymdeithasfa'r de yn 1873-4. Priododd Catherine, merch Peter Davies, y Glyn, yn 1846, wedi marw'i thad, ac ymgartrefodd yn Hendre Fawr ym mharsel Gwynfil. Bu iddynt chwech o ferched. Bu farw 15 Gorffennaf 1878, yn 78 oed, a chladdwyd ef ym mynwent capel Llangeitho.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.