ROBERTS, SAMUEL ('S.R.'; 1800 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr, golygydd, diwygiwr Radicalaidd

Enw: Samuel Roberts
Ffugenw: S.r.
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1885
Rhiant: Mary Roberts (née Breese)
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, golygydd, diwygiwr Radicalaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert Ivor Parry

Ganwyd 6 Mawrth 1800, mab hynaf John a Mary Roberts (gynt Breese), Llanbrynmair, lle'r oedd ei dad yn weinidog Annibynnol. Derbyniodd ei addysg fore yn yr ysgol leol a gedwid gan ei dad, ac yna yn Amwythig, 1810-12. Hawlir mai ef oedd un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i ddysgu llaw-fer. Yn 1819 aeth fel ymgeisydd am y weinidogaeth i'r academi a gedwid yn Llanfyllin, ond a symudwyd yn fuan i'r Drefnewydd dan George Lewis. Ar 15 Awst 1827 ordeiniwyd ef yn gyd-weinidog â'i dad yn Llanbrynmair. Daeth i'r amlwg yn fuan fel pregethwr, fel gohebydd mynych i'r Wasg, ac fel cystadleuydd eiddgar mewn eisteddfodau. Yn 1830 cyhoeddodd gyfrol fechan o gerddi, yn cynnwys 'Cwynion Yamba' - cerdd yn dinoethi caethwasiaeth, a pharhaodd ar hyd ei oes i weithio dros ryddhau'r caethion. Anfonodd i eisteddfod Biwmares (1832) draethawd ar amaethyddiaeth, yn dadlau o blaid masnach rydd, ond colli a wnaeth; ac o hynny ymlaen troes i bledio yn y Wasg dros ddiwygiadau cymdeithasol, yn fwy nag i farddoni a chystadlu. Wedi marw ei dad yn 1834, parhaodd 'S.R.' yn weinidog yr Hen Gapel, Llanbrynmair, gyda chymorth ei frawd 'J.R.', nes i hwnnw symud i Ruthyn yn 1848. Ei frawd ieuengaf 'Gruffydd Rhisiart' a ofalai am fferm y Diosg, lle buasai ei deulu yn denantiaid er 1806. Yr oedd diddordeb 'S.R.' mewn amaethyddiaeth, felly, yn bersonol ac ymarferol. Cafodd ei dad y profiad chwerw o wario £700 mewn saith mlynedd ar wella fferm y Diosg, ac yna gael y rhent wedi ei ddyblu; a hyn yn ddiamau a gyfrif am wrthwynebiad cyson 'S.R.' i landlordiaeth a threth y degwm. Yr oedd yn gefnogydd brwd hefyd i'r Anti Corn Law League. Yr oedd yn flaenllaw ei syniadau am amaethyddiaeth wyddonol a iechydiaeth y parthau gwledig. Dadleuodd o blaid cael rheilffordd drwy Sir Drefaldwyn (a orffennwyd yn 1861) fel cyfraniad pwysig i fywyd y wlad.

Cymerai ran bwysig yng ngwaith y Gymdeithas Genhadol a'r Gymdeithas Feiblaidd, ac yr oedd yn ddirwestwr pybyr. Yn 1834-5 ef oedd ysgrifennydd y mudiad i ddileu dyled capelau'r Annibynwyr yng ngogledd Cymru. Yn 1839 bu dadl enwog rhyngddo ef a'r Dr. Lewis Edwards, Bala, ar natur Eglwys. Safai 'S.R.' dros ryddid y gynulleidfa unigol, yn erbyn canoli awdurdod. Bu 'S.R.' yn Annibynnwr manwl ar hyd ei oes; ofnai'r mudiad i sicrhau Undeb yr Annibynwyr yn 1872. Ar yr un tir, bod rhyddid yr unigolyn mewn perygl, gwrthwynebai undebau llafur mewn diwydiant. Yn 1843 cychwynnodd Y Cronicl, cylchgrawn misol 1½g. a ddaeth yn boblogaidd ar unwaith. Honnai ef ei hun fod dros filiwn o gopïau wedi eu gwerthu mewn 12 mlynedd. Â'r cylchgrawn hwn, daeth 'S.R.' yr amlycaf ymhlith Radicaliaid Cymru. Fel llawer o'i gyd-oeswyr, protestiodd yn gryf yn erbyn adroddiad y comisiwn addysg yn 1847, a pharhaodd drwy ei oes i gefnogi'r egwyddor wirfoddol mewn addysg, hyd yn oed ar ôl Deddf 1870. Yr oedd yn heddychwr digymrodedd, a rhwng 1828 a 1834 darlithiodd lawer dros y Gymdeithas Heddwch. Yn 1850 yr oedd yn gynrychiolydd yn y gynhadledd heddwch gyd-wladol yn Frankfort. Condemniodd ryfel y Crimea, ac imperialaeth Disraeli wedi hynny. Gwrthwynebai ddienyddio (a weinyddid am amryw droseddau y pryd hynny) a dadleuodd dros liniaru disgyblaeth yn y fyddin a'r ysgolion. Condemniodd hefyd yr elfennau ymladdgar ym mudiadau 'Beca' a Siartiaeth, er ei fod yn gefnogol i ymestyn y bleidlais. Ef oedd un o'r rhai cyntaf dros roddi'r bleidlais i ferched.

Oherwydd yr annealltwriaeth parhaus rhwng tenantiaid y Diosg a stiward y stad, penderfynodd 'S.R.' ymfudo i America. Hwyliodd am Tennessee, 6 Mai 1857, at ei frawd, 'Gruffydd Rhisiart,' a aethai yno y flwyddyn gynt. Ond buan y gwelwyd iddynt gael eu twyllo gan y goruchwylwyr tir yno. Aeth pethau'n waeth pan ddaeth Rhyfel Cartref America, 1861-5. Am iddo wrthod cyfiawnhau rhyfel, hyd yn oed i ryddhau'r caethion, drwgdybid ef gan y ddwyblaid. Enllibiwyd ef yn y Wasg gartref, ac yn Y Drych (Americanaidd). Bu mewn perygl am ei fywyd, a hefyd yn bur wael ei iechyd yn Hydref-Tachwedd 1864. Ymhen tair blynedd dychwelodd i Gymru, ac ymsefydlu yng Nghonwy. Ym Mawrth 1868, cafodd £1,245 yn dysteb gyhoeddus a gyfrannwyd gan ryw 14,000 o bobl. Aeth ar ymweliad byr i America yn 1870 i werthu ei eiddo yno.

Erbyn hynny yr oedd llawer o'r gwelliannau y bu'n ymladd drostynt wedi eu sicrhau. Daliodd i ddadlau yn erbyn yr undebau llafur, a chymorth llywodraeth mewn addysg, ond gwanhau yr oedd ei ddylanwad. Amhoblogaidd hefyd oedd ei ddadleuon yn erbyn y tugel ('balot'), sef mai cynllun i'r llwfr ydoedd. Cymylwyd ei flynyddoedd olaf gan ymrysonau cecrus, a'r ddadl enwadol â Michael D. Jones. Ond yn 1883 derbyniodd arwydd bellach o barch y cyhoedd drwy dysteb o £400, yn cynnwys £50 yn rhodd gan y Llywodraeth, am ei ymdrechion maith dros y llythyr ceiniog. Bu farw 24 Medi 1885, a chladdwyd ef yng Nghonwy. Yr oedd yn ddi-briod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.