Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROGERS , JOHN (bu f. 1738 ), gwerthwr llyfrau ac argraffydd yn Amwythig ;

mab Reynold Rogers , groser , Llundain . Efallai ei fod yn fab i Gabriel Rogers (bu f. 1705 ), a oedd yntau yn werthwr llyfrau yn Amwythig . Dechreuodd argraffu tua 1706 , ac y mae'n bosibl mai ei lyfr cyntaf oedd A Sermon preach'd at the Funeral of … James Owen, Minister of the Gospel in Shrewsbury. April the 11th, 1706. By Matthew Henry , 1706? . Yn 1707 cyhoeddodd ddau lyfr Cymraeg : Egwyddorion y Grefydd Gristianogawl a Godidawgrwydd Rhinwedd , yn 1708 argraffodd almanac — Cennad oddiwrth y Ser , ac yn 1714 argraffiad o Dirgelwch , sef llyfr mwyaf adnabyddus Morgan Llwyd o Wynedd . Un faled Gymraeg o'i wasg a gofnodir gan J. H. Davies ( Bibliog. of Welsh Ballads ). Ymddengys iddo barhau i argraffu hyd 1729 o leiaf. Bu Nicholas Thomas [q.v.] yn dysgu ei grefft yn swyddfa John Rogers neu yn swyddfa Shôn Rhydderch [q.v.] . Claddwyd un ‘ John Rogers , Bookseller ,’ 9 Mai 1738 .

Ffynonellau:

  • At y ffynhonnell a nodwyd ychwaneger Llewelyn C. Lloyd , ‘The Book-Trade in Shropshire,’ yn Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society , 1935 a 1936 (lle y ceir llawer o fanylion am wahanol aelodau teuluoedd o'r cyfenw Rogers).

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54