ROOS, WILLIAM (1808 - 1878), peintiwr portreadau ac ysgythrwr

Enw: William Roos
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1878
Rhiant: Mary Roose
Rhiant: Thomas Roose
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peintiwr portreadau ac ysgythrwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Megan Ellis

Bedyddiwyd ef yn Amlwch 30 Ebrill 1808, yn fab Thomas a Mary Roose, Bodgadfa, Amlwch.

Dyfarnwyd ei ddarluniau o 'Farwolaeth Owen Glyndŵr,' a 'Marwolaeth Capten Wynn yn Alma,' yn ail-orau yn yr eisteddfod genedlaethol a gynhaliwyd yn Llangollen yn 1858. Yr oedd yn boblogaidd fel peintiwr portreadau ac y mae ei ddarluniau mewn olew o Christmas Evans, John Cox, Thomas Charles, John Jones (Talhaearn), a R. W. Price (Rhiwlas), yn ogystal ag amryw o'i ysgythriadau, yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Cynigiodd ei ddarlun olew o Christmas Evans i'r Parch. William Roberts ('Nefydd') yn 1870 am ddwy bunt.

Bu farw yn Amlwch, 4 Gorffennaf 1878.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.