ROWLAND, BENJAMIN (fl. 1722-63), cynghorwr Methodistaidd

Enw: Benjamin Rowland
Priod: Beti Rowland
Rhiant: Thomas Rowland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd c. 1722, mab Thomas Rowland, Llanidloes, Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn aelod o seiat Llandinam yn 1744, ac enwir ef yn gynghorwr yn sasiwn y Tyddyn, 1745. Bu'n aelod blaenllaw o blaid Howel Harris, a theithiodd o'i blaid yn siroedd Trefaldwyn, Dinbych, a Môn. Ymunodd ef a Beti ei briod â'r Teulu yn Nhrefeca, a throsglwyddodd ei eiddo, Cefncroesllwybr, Llanidloes i'r sefydliad. Enwid ef i fod yn gyfarwyddwr ac ymddiriedolwr y sefydliad ar ôl dyddiau Harris. Penodwyd ei briod yn 'fam' y Teulu ar farwolaeth Mrs. Sidney Griffith; dechreuodd dra-awdurdodi a chollodd y swydd. Ffromasant ill dau, tynnwyd y rhodd yn ôl a chefnu ar Drefeca. Aethant i Lundain, a chyfeirir ato ef yn 1763 fel un a bregethai athrawiaeth y brodyr Relly. Ni wyddys beth a ddaeth ohono wedyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.