ROWLAND, DANIEL (1713-1790), clerigwr Methodistaidd

Enw: Daniel Rowland
Dyddiad geni: 1713
Dyddiad marw: 1790
Priod: Elinor Rowland (née Davies)
Plentyn: Nathaniel Rowland
Plentyn: John Rowland
Rhiant: Janet Rowland (née Thomas)
Rhiant: Daniel Rowland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 1713 ym Mhantybeudy, Nantgwnlle, Sir Aberteifi, mab Daniel a Janet Rowland - ei dad yn dal bywoliaeth Nantgwnlle a Llangeitho. Addysgwyd ef, medd traddodiad, yn ysgol ramadeg Henffordd. Cafodd urdd diacon yn 1734, ac urdd offeiriad yn 1735; bu'n gurad i John, ei frawd, yn y plwyfi uchod. Priododd, 1734, Eleanor Davies, Caerllugest. Cafodd brofiad ysbrydol dwys dan weinidogaeth Griffith Jones, c. 1735, a dechreuodd bregethu gyda nerth gan daranu uwchben y bobl. Lliniarodd ei arddull ar gyngor Philip Pugh, gan bregethu gras yn lle'r ddeddf. Dechreuodd deithio dros y wlad; cyfarfu â Howel Harris yn 1737, a chyn hir ymunodd y ddau ynghyd ag eraill i hyrwyddo'r deffroad mawr Methodistaidd yng Nghymru. Bu anghydfod rhyngddo â Harris, a chyhoedodd Ymddiddan rhwng Methodist Uniawngred ac un Cyfeiliornus yn ei erbyn yn 1750. Aeth yn rhwyg yn 1752, ac ef bellach oedd arweinydd 'pobl Rowland,' fel y gelwid ei ganlynwyr. Boddodd ei frawd yn Aberystwyth yn 1760, a chafodd mab y diwygiwr fywoliaeth Llangeitho. Bu'n gurad i'w fab am dymor, a chododd gapel at ei wasanaeth ei hun gerllaw eglwys y plwyf. Collodd ei le fel curad c. 1763 am ryw reswm. Apeliodd plwyfolion Nantgwnlle yn ofer am ei gael yn ôl yn 1767. Dewisodd aros hyd y diwedd, gyda'i bobl yn yr ' Eglwys Newydd,' Llangeitho, er cael cynnig bywoliaeth gysurus Trefdraeth, Sir Benfro, yn 1769. Bu farw 16 Hydref 1790, a'i gladdu yn Llangeitho ar 20 Hydref, 'yn 77 oed' meddai rhestr y plwyf.

Pregethwr oedd Daniel Rowland yn anad dim, ac am gyfnod maith gwnaeth Langeitho yn Feca'r Methodistiaid yng Nghymru. Tyrrai'r miloedd yno o bob parth ar Sul y Cymun, a dylanwadodd yn drwm ar ysbryd ei oes. Cyhoeddwyd ei bregethau yn llyfrynnu bychain yn 1739, 1762, 1772 (dwy gyfrol), a 1775. Troswyd rhai ohonynt i'r Saesneg, a'u cyhoeddi yn 1774, 1775, a 1788. Canodd nifer o emynau hefyd ar gyfer y casgliadau cynnar megis Llwybur Hyffordd i'r Cymru, 1740, a Sail, Dibenion, etc., 1742. Ceir chwech emyn o'r eiddo yn niwedd Marw i'r Ddeddf, etc., 1743, 19 yn Hymnau Duwiol, etc., 1744, a chyhoeddodd gasgliad bychan o Hymnau Duwiol yn 1745. Ei gasgliad olaf oedd Pum Pregeth ac Amryw o Hymnau, 1772. Yr oedd yn un o arloeswyr yr emyn Cymraeg cyn dechrau o William Williams ganu. Trosodd rai pethau o'r Saesneg i'r Gymraeg, megis Y Rhyfel Ysbrydol (Bunyan), 1744; Aceldama , 1759; Pymtheng Araith (Wetherall), 1762; a Camni yn y Coelbren (Boston), 1769.

Ei fab hynaf oedd

JOHN ROWLAND (1735 - 1815)

Ganwyd 14 Hydref 1735, urddwyd yn ddiacon 1757, ac offeiriad 1758. Ef a gafodd fywoliaeth Llangeitho yn 1760. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1757; ni ddywed Foster iddo raddio (ac y mae'n galw ei dad yn 'John,' ac yn dyddio ei ymaelodi yn 1767); eto priodolir M.A. iddo. Yr oedd yn gurad Eglwys Fair, Amwythig, yn 1761, a churad Clive yn 1783-1810. Gwasnaethodd fel athro yn ysgol Amwythig, 1771-98. Bu farw 28 Tachwedd 1815. Ei wraig oedd Mary, merch y Parch. William Gorsuch, Amwythig. Daeth dau o'u plant yn enwog, sef

WILLIAM GORSUCH ROWLAND (1770 - 1851)

ficer Eglwys Fair, Amwythig, a phrebendari Lichfield.

DANIEL ROWLAND (1778 - 1839)

hynafiaethydd, noddydd y celfau cain, a dyngarwr.

Mab arall iddo oedd Nathaniel Rowland.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.