ROWLAND, HENRY (1551 - 1616), esgob Bangor

Enw: Henry Rowland
Dyddiad geni: 1551
Dyddiad marw: 1616
Priod: Frances Rowlands (née Hutchins)
Rhiant: Elizabeth ferch Gruffydd ap Robert Vaughan
Rhiant: Rolant ap Robert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Glyn Roberts

Ganwyd ym Mellteyrn, Llŷn, mab Rolant ap Robert ac Elizabeth, ferch Gruffydd ap Robert Vaughan, Talhenbont. Cafodd ei addysg mewn ysgol ym mhlwyf Penllech ac yn New College, Rhydychen (B.A. 1574, M.A. 1577, B.D. 1591, D.D. 1605). Ordeiniwyd ef 14 Medi 1572. Bu'n rheithor Mellteyrn, 1572-81, Launton, swydd Rhydychen, 1581-1600; prebend Penmynydd, 1584-93; rheithor Aberdaron, 1588; archddiacon Môn, 1588; deon Bangor, 1593; ac esgob Bangor, 1598-1616. Pan oedd yn esgob daliai 'in commendam' fywiolaethau Trefdraeth, sir Fôn, a Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, sir Ddinbych. Ymddengys iddo atgyweirio'r eglwys gadeiriol ym Mangor a gadawodd hefyd £20 yn ei ewyllys tuag at y draul o'i haildoi. Sefydlodd ysgoloriaethau yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a chymynroddodd diroedd tuag at sefydlu ysgol (Botwnnog) ym Mellteyrn, ac elusendai ym Mangor. Priododd Frances Hutchins, Launton, ond ni adawodd blant. Bu farw 6 Gorffennaf 1616.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.