Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SALESBURY ( SALISBURY ), HENRY ( 1561 - 1637? ), gramadegydd ;

g. ef ym mhlwyf Henllan , sir Ddinbych — yr oedd ei deulu'n gangen o hen deulu Llewenni . Graddiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ( S. Alban Hall ). Bu'n astudio meddygaeth ac yn gwneud gwaith meddyg . Cyfeiria Dr. John Davies o Fallwyd ato fel ‘ medicus doctis annumerandus .’ Yn 1593 fe gyhoeddodd ei ramadeg Cymraeg , Grammatica Britannica ( Llundain ). Ceir hanes hefyd am waith arall a ddechreuodd, sef ‘ Geirva Tavod Cymraec ,’ geiriadur Cymraeg - Lladin . Y mae llinellau Lladin a Chymraeg (cywydd) ganddo ar ddechrau llyfr Henry Perri , Egluryn Phraethineb , 1595 ; gw. argraffiad Gwasg Prifysgol Cymru o'r llyfr hwnnw, 1930 . Bernir mai ef yw'r Henry Salesbury a fu f. yng Nghaer 6 Hydref 1637 .

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography

Awdur:

Syr Thomas Herbert Parry-Williams, D.Litt., (1887-1975), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54