Yr oedd dau brif gymhelliad y tu ôl i weithgarwch William Salesbury: awydd i roi'r Ysgrythur Lân o fewn cyrraedd y Cymry, ac awydd i gyflwyno dysg a gwybodaeth iddynt yn eu hiaith eu hunain. Ei gynnig cyntaf ar drosi'r Ysgrythurau i'r Gymraeg oedd y cyfieithiad o lithoedd gwasanaeth Cymun yr Eglwys a argraffodd yn 1551 dan y teitl Kynniver llith a ban. Dryswyd ei gynlluniau dros dro pan adferwyd y grefydd Gatholig Rufeinig dan y frenhines Mari (1553-8), ond yn gynnar yn nheyrnasiad Elisabeth, yn y flwyddyn 1563, pasiwyd deddf yn gorchymyn cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg, a gwahoddwyd ef i gynorthwyo Richard Davies [q.v.], esgob Tyddewi, gyda'r cyfieithu. Gorffennwyd y Llyfr Gweddi a'r Testament Newydd erbyn 1567 a chyhoeddwyd y ddau destun y flwyddyn honno. Salesbury a wnaethai'r rhan fwyaf o'r gwaith: efe, hyd y gellir barnu, a gyfieithodd y Llyfr Gweddi, ac ef hefyd a gyfieithodd holl lyfrau'r Testament Newydd ar wahân i Lyfr y Datguddiad a gyfieithwyd gan Thomas Huet [q.v.], cantor Tyddewi, a'r epistolau canlynol a gyfieithwyd gan Richard Davies — 1 Timotheus, Hebreaid, Iago, 1 a 2 Pedr. Y mae'n debyg i Salesbury a'r esgob Davies ddechrau cyfieithu'r Hen Destament i'r Gymraeg, ond am ryw reswm — yn ôl Syr John Wynn am iddynt anghytuno ar ystyr a tharddiad rhyw air — ni ddaeth y gwaith i ben, ac ni chafwyd yr Hen Destament yn Gymraeg hyd nes cyhoeddodd y Dr. William Morgan [q.v.] ei gyfieithiad o'r Beibl yn 1588. Bu beirniadu llym ar gyfieithiadau Salesbury, ac ni chawsant nemor ddim croeso, am eu bod yn dryfrith o ffurfiau Lladinaidd a hynodion orgraffyddol eraill, ac, o'r herwydd, yn annealladwy i liaws mawr o'i gyfoeswyr. Er hynny, gwych o gyfieithiadau oeddynt o ran iaith ac arddull, a mawr oedd dyled y Dr. Morgan iddynt.
Ni chyfyngodd Salesbury ei weithgarwch i gyfieithu'r Ysgrythurau. Yn 1547 argraffodd eiriadur i ddysgu Saesneg i'r Cymry; hwn o bosibl ydoedd y llyfr argraffedig cyntaf yn Gymraeg. Tair blynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd lyfr i gynorthwyo Saeson i ddysgu Cymraeg. Un o'i lyfrau mwyaf adnabyddus ydyw Oll Synnwyr pen Kembero ygyd, casgliad o ddiarhebion Cymraeg a argraffodd tua 1547 er ceisio dwyn ei gydwladwyr i ymgydnabod â pheth o ddysg draddodiadol eu cenedl. Trosodd rai testunau o ieithoedd eraill yn Gymraeg. Er enghraifft, yn 1552 cyfieithodd draethawd ar retoreg o'r Lladin yn Gymraeg. Ond ni chyhoeddodd y gwaith hwn nac ychwaith y llysieulyfr a gyfieithodd o destunau Lladin a Saesneg rhwng 1568 a 1574. Yn ychwanegol at y gweithiau a enwyd, argraffodd Salesbury nifer o lyfrau ar amrywiol destunau yn Gymraeg a Saesneg. [Argraffwyd y Llysieulyfr yn 1916.]
William Salesbury oedd Cymro mwyaf dysgedig ei oes: medrai Hebraeg, Roeg, a Lladin yn ogystal â rhai ieithoedd diweddar, ac yr oedd yn hyddysg mewn llu o wahanol bynciau. Ond ysgolhaig a llenor Cymraeg ydoedd yn anad dim, ac ef ydyw un o brif gynrychiolwyr dyneiddiaeth y Dadeni Dysg yng Nghymru. Prin y cyflawnodd neb fwy o wasanaeth i genedl y Cymry na William Salesbury. Ei gyfraniad mawr oedd cyfieithu'r Ysgrythurau yn Gymraeg a thrwyddynt osod sylfeini rhyddiaith Gymraeg ddiweddar.
William Alun Mathias, M.A., Caerdydd
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.