Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SALISBURY, THOMAS (1567?-1620), cyhoeddwr llyfrau yn Llundain . Pan rwymwyd ef i wasnaethu Oliver Wilkes, llyfrwerthwr, Llundain, ar 9 Hydref 1581, fe'i disgrifiwyd yn fab i Pierce Salberye o blwyf Clokanock (Clocaenog), sir Ddinbych. Fe'i gwnaethpwyd yn rhyddfreiniwr o'r Stationers’ Company ar 16 Hydref 1588; efallai mai ef hefyd ydyw'r Salisbury a elwir yn ‘a bookbinder dwelling in Powles churchyard’ yn Hist. MSS. Comm., Cecil MSS., vi, 288-9. Cyhoeddodd Thomas Salisbury bedwar (o leiaf) o lyfrau Cymraeg yn Llundain — (a) Henry Salesbury, Grammatica Britannica, 1593; (b) William Middleton, Psalmae y Brenhinol Brophvvyd Dafydh gwedi i cynghaneddu mewn mesurau cymreig, 1603; (c) Edward Kyffin, Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd, 1603; a (ch) cyfieithiad Cymraeg o ran o Basilikon Doron (llyfr y brenin James I), 1604. Mynegir yng nghofrestr Cwmni'r Stationers o dan y flwyddyn 1597 ei fod yn bwriadu cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o A godly meditation of the soule concerninge a love towards Christ our Lord, eithr ni wyddys a ymddangosodd y cyfieithiad. Mewn llythyr a ysgrifennodd at Syr John Wynn, Gwydir, c. 1610 (gw. Ballinger a Jones, The Bible in Wales a N.L.W. Calendar of Wynn of Gwydir Papers), y mae'r cyhoeddwr yn cyfeirio at amryw lyfrau yn Gymraeg y buasid wedi eu cyhoeddi oni buasai i Edward Kyffin farw pan ymwelodd pla â Llundain yn 1603; sylwer ar y gair Rhann yn nheitl llyfr salmau Kyffin ac na chwpláwyd argraffu'r Basilikon. Cyflwynwyd Psalmae William Middleton (‘Gwilym Canoldref') i Syr Thomas Myddelton [q.v.], a oedd yn berthynas i'r bardd. Dangosodd E. D. Jones (Cylchgrawn Ll.G.C., i, 52-3) gymaint o gymorth a roes Syr Thomas i Salisbury; ar 5 Ionawr 1593/4 rhoes fenthyg £10 i ‘Thomas Salisbury stacioner, and Harry Salesbury clarck’ (Henry Salisbury y Grammatica ?) tuag at argraffu llyfr a elwid ‘the sickmans salice in the Welshe tong,’ ac, ar 12 Hydref, fenthyg £30 tuag at argraffu Psalmae William Middleton (gw. llyfr cyfrifon Syr Thomas Myddelton ymysg llawysgrifau castell Chirk yn Ll.G.C.).

Awgrymir (yn D.N.B.) y gallai JOHN SALISBURY (fl. 1695), argraffydd yn Llundain, fod yn ŵyr i Thomas Salisbury. Ef oedd argraffydd cyntaf (a golygydd) y Flying Post, a ddechreuodd ymddangos ar 11 Mai 1695; gw. ychydig fanylion ychwanegol amdano yn y D.N.B. Y mae'n bosibl iddo ef f. cyn 1705.

Llyfryddiaeth:

  • At y cyfeiriadau a roddir uchod (a'r rheini a roddir yn y D.N.B.) ychwaneger R. B. McKerrow (gol.), A Dictionary of Printers and Booksellers in England… 1557-1640 (London, 1910), a Jnl. W.B.S., ii, 169-70, 180-2.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

SALISBURY, THOMAS (1567?-1620; Bywg., 844) Gwall argraff, tua'r diwedd — cywirer ‘sickmans salice’ i ‘sickmans salve’. Yn wyneb yr hyn a ddywedir o dan Edward Kyffin (Bywg., 505) byddai'n ddiogelach newid yn achos Rhan o Psalmae o ‘cyhoeddodd’ i ‘dechreuodd argraffu’.