SALUSBURY, JOHN (1575-1625), neu John Parry , Jesiwit, ac ysgolhaig;
g. yn sir Feirionnydd, 1575, aelod, o bosibl, o deulu Rug [q.v.]. Aeth i goleg y Jesiwitiaid yn Valladolid, 22 Mehefin 1595; urddwyd ef yn offeiriad, 21 Tachwedd 1600, ac ym mis Mai 1603 anfonwyd ef i Loegr lle yr ymunodd yn 1605 â Chymdeithas yr Iesu. Wedi marw'r Tad Robert Jones yn 1615, dilynodd Salusbury ef fel ‘Superior of the North and South Wales District,’ ac aeth i fyw i gastell Raglan lle y gwasnaethai fel caplan i'r arglwyddes Frances Somerset. Yn 1622 sefydlodd Goleg S. Francis Xavier yn y Cwm ym mhlwyf Llanrhyddol, sir Henffordd, a daeth yn bennaeth arno. Bu f. yn 1625 pan ar fîn ymadael am Rufain i lanw'r swydd o ‘ procurator,’ talaith Lloegr o Gymdeithas yr Iesu. Cyfieithodd Salusbury yn Gymraeg lyfr Eidaleg gan y cardinal Bellarmine dan y teitl Eglurhad Helaethlawn o'r Athrawiaeth Gristnogawl a argraffwyd yng Ngholeg S. Omer, 1618.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B., a'r awdurdodau a enwir yno.
Awdur:
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor