Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SALUSBURY, Syr CHARLES JOHN (1792-1868), clerigwr a hynafiaethydd. g. yn 1792, mab Robert Salusbury (wedi hynny, sef yn 1795, Syr Robert Salusbury, barwnig) a'i wraig Catherine Vaun, aeres Llanwern, sir Fynwy. O ochr ei dad yr oedd yn disgyn o ail briodas Catherine o'r Berain [q.v.]. Dilynodd ei frawd, Syr Thomas Robert Salusbury, ail farwnig, yn 3ydd barwnig yn 1835. Yr oedd yn llenor ac yn hynafiaethydd, yn cymryd diddordeb arbennig yn hanes sir Fynwy. Y mae yn N.L.W. MS. B.R.A. 328 lythyrau a dderbyniodd oddi wrth Richard Llwyd (‘Bard of Snowdon') [q.v.], John Montgomery Traherne [q.v.], ac eraill.

Llyfryddiaeth:

  • Cylch. Ll.G.C., ii, 89-90;
  • Not. W.;
  • E. G. Salisbury, Border Counties' Worthies, i, 219.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth