Cywiriadau

SALUSBURY (TEULU), Rug, Corwen.

Sylfaenwyd y teulu yn gynnar yn y 16eg ganrif gan PIERS SALUSBURY, mab hynaf JOHN SALUSBURY, Bachymbyd, pedwerydd mab Thomas Salusbury, Llewenni (bu farw 1470) (gweler yr ysgrif ar Salusbury, Llewenni); priododd ef Margaret Wen, merch ac etifeddes Ieuan ap Howel ap Rhys, arglwydd Rug. Yr hynaf o'r saith mab o'r briodas hon ydoedd ROBERT SALUSBURY, ac ychwanegodd ef at y stad trwy brynu arglwyddiaeth Glyndyfrdwy gan William, arglwydd Graye o Wilton, a John Banester, a'i cafodd gan y Goron, 1552. Yr oedd Robert yn siryf Sir Feirionnydd, 1544 a 1549, a sir Ddinbych, 1546, a phriododd Catrin, merch John ap Madog o Fodfel yn Llŷn. Dilynwyd ef gan ei fab John Salusbury (bu farw 1580), aelod seneddol dros sir Feirionnydd, 1553, a siryf, 1559 a 1578. Priododd Elisabeth, merch ei gâr Syr John Salusbury, Llewenni ('Syr John y Bodiau'), a bu farw yn 1580 gan adael y stad i'w fab hynaf, Syr ROBERT SALUSBURY (bu farw 1603), a briododd Elinor, merch Syr Henry Bagnall, Plas Newydd, Môn, ac a fu'n aelod seneddol tros sir Ddinbych, 1586-7, a sir Feirionnydd, 1588-9. Aeth dau o'i frodyr, y capten JOHN SALUSBURY a'r capten OWEN SALUSBURY, i ymladd fel gwirfoddolwyr yn y rhyfeloedd ar y Cyfandir; buont â llaw yng nghynllwynion bradwrus Syr William Stanley yn 1586 a 1587 a gwasnaethent am dymor ym myddin Sbaen. Yn ddiweddarach, tua 1596, daeth y ddau i gyswllt agos â iarll Essex; aethant gydag ef ar ei ymgyrch yn erbyn Calais y flwyddyn honno, dilynasant ef i Iwerddon, drachefn, yn 1599, ac yr oeddynt ymhlith yr amlycaf o gynorthwywyr yr iarll yn ei gynnig gorffwyll ac aflwyddiannus yn Chwefror 1600/1, i gyhoeddi gwrthryfel yn erbyn gweinidogion y frenhines. Lladdwyd Owen yn ystod yr helynt a chladdwyd ef ym mynwent S. Clement Danes, Llundain; ond wedi tymor byr yng ngharchar a thalu dirwy o £40 rhyddhawyd John cyn mis Medi 1601.

Bu farw Syr Robert Salusbury yn 1603, a'i fab hynaf a'r aer, John Salusbury, yn ddiblant, yn fuan ar ei ôl yn 1607/8. Daeth stad Rug, felly, i feddiant WILLIAM SALUSBURY, brawd arall i Syr Robert, a adwaenir fel ' Hen Hosanau Gleision.' Yr oedd yn un o bleidwyr selocaf y brenin yn y Rhyfel Cartrefol; atgyweiriodd gastell Dinbych ar ei gost ei hun yn 1643, ac er mewn oedran teg, ei amddiffyn yn gadarn yn erbyn byddin y Senedd; ac nid cyn 26 Hydref 1646, wedi deufis o warchae, y cytunodd i ildio'r castell i'r cadfridog Mytton. Bu'n aelod seneddol dros ei sir, 1620-2, a phriododd Dorothy, merch Owen Vaughan, Llwydiarth.

O'i dri mab, yr hynaf, ac aer Rug, oedd Owen Salusbury (bu farw 1657), siryf Sir Feirionnydd, 1647-8; priododd Mary, merch ac aeres Gabriel Goodman, Abenbury, 'protonotary' Gogledd Cymru, a bu farw 17 Ionawr 1657/8. Cafodd CHARLES SALUSBURY, yr ail fab, stad Bachymbyd, ac yn 1660 yr oedd i fod yn ' Knight of the Royal Oak ' fel teyrnged i wasanaeth teulu Rug i'r brenin Siarl I. Dilynwyd Owen Salusbury gan ei fab WILLIAM SALUSBURY, siryf Sir Feirionnydd, 1661-2, a fu farw yn 1677, a chan ei fab yntau, OWEN SALUSBURY (bu farw 1694), a droes yn Gatholig ac a fu farw yn 1694, gan adael dwy ferch. Priododd Elisabeth, yr hynaf, a gafodd Rug, â Rowland Pugh, Mathafarn yng Nghyfeiliog, a bu iddynt un mab, WILLIAM PUGH SALUSBURY, a fu farw'n ddibriod, a dwy ferch. Etifeddwyd stad Rug gan yr hynaf o'r ddwy, MARIA CHARLOTTE (1721 - 1780) a briododd (1), Thomas Pryse, Gogerddan (bu farw 1745), a (2), y Parch. John Lloyd. Bu hi farw 26 Awst 1780, gan adael Rug trwy ewyllys i Edward William Vaughan, ail fab Syr Robert Howel Vaughan, Nannau a Hengwrt. Bu farw Edward yn Sicily, 1807; yna daeth y stad yn eiddo i'w frawd ieuengaf, Griffith Howel Vaughan, wedyn, yn 1848, i nai Griffith, Syr Robert Williames Vaughan, Nannau ac Ystumcolwyn, ac ar ôl Syr Robert, i Charles Henry Wynn (1847 - 1911), Glynllifon, trydydd mab Spencer Bulkeley Wynn, y 3ydd barwn Newborough.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

SALUSBURY, SALESBURY (TEULU), Y Rug a Bachymbyd

Sylfaenwyd y teulu hwn ym Machymbyd, rhwng Rhuthun a Dinbych, yn niwedd y 15fed ganrif gan JOHN SALUSBURY, pedwerydd mab Thomas Salusbury o Leweni (bu farw 1490 - gweler yr ysgrif ar Salbriaid Lleweni a Bachygraig uchod). Daeth Y Rug i'w feddiant trwy briodas PIERS SALUSBURY, mab hynaf John, â Margaret Wen, merch ac aeres Ieuan ap Hywel ap Rhys, arglwydd Y Rug ger Corwen, Meirionnydd. Y Rug a ddaeth y pwysicaf o'r ddwy gangen, er mai yn sir Ddinbych, o amgylch Rhuthun, y gorweddai y rhan helaethaf erioed o stadau'r teulu. Dylir nodi mai'r sillafiad ' Salesbury ' a fabwysiadwyd gan y gangen hon o'r Salbriaid, ac mai anaml y defnyddid yr un arall ganddi trwy gydol y 16eg a'r 17eg ganrif o leiaf. Yr hynaf o saith mab Piers oedd ROBERT SALUSBURY, siryf Sir Feirionnydd yn 1544 a 1549 a sir Ddinbych yn 1546; priododd Catrin, merch John ap Madog o Fodfel yn Llŷn. Dilynwyd ef gan ei fab, JOHN SALUSBURY, a fu'n aelod seneddol tros sir Feirionnydd yn 1553 ac yn siryf y sir honno yn 1559 a 1578. Ychwanegodd John at y stâd trwy brynu arglwyddiaeth Glyndyfrdwy gan William, arglwydd Graye de Wilton, a John Banester, a'i cafodd gan y Goron yn 1552. Priododd ef Elisabeth, merch ei gâr, Syr John Salusbury, Lleweni (siambrlen Gwynedd), a bu farw yn 1580 gan adael ei diroedd i'w fab hynaf, Syr ROBERT SALUSBURY (bu farw 1599) a briododd Elinor, merch Syr Henry Bagnall, Plas Newydd, Môn, ac a fu'n aelod seneddol tros sir Ddinbych 1586-7 a sir Feirionnydd 1588-9. Aeth i Iwerddon yn gapten yn y fyddin Seisnig, ac urddwyd ef yn farchog yno yn 1593 gan yr Arglwydd Ddirprwy. Ymladdodd ei frawd, y capten JOHN SALUSBURY, a'i gâr, y capten Owen Salusbury, Holt (gweler hefyd yr ysgrif ar Salbriaid Lleweni a Bachygraig) fel gwirfoddolwyr yn y rhyfeloedd ar y Cyfandir; buont â llaw yng nghynllwynion bradwrus Syr William Stanley yn 1586 a 1587 a gwasanaethent am dymor ym myddin Sbaen. Yn ddiweddarach, tua 1596, daeth y ddau i gyswllt agos ag iarll Essex; aethant gydag ef ar ei ymgyrch yn erbyn Cadiz y flwyddyn honno, a'i ddilyn i Iwerddon, drachefn, yn 1599, ac yr oeddynt ymhlith yr amlycaf o gynorthwywyr yr iarll yn ei gynnig gorffwyll ym mis Chwefror 1600/1601 i gyhoeddi gwrthryfel yn erbyn gweinidogion y frenhines. Lladdwyd Owen Salusbury yn ystod yr helynt, ond wedi tymor byr yng ngharchar a thalu dirwy o £400, rhyddhawyd y capten John Salusbury cyn mis Medi 1601.

Bu farw Syr Robert Salusbury yn 1599, ac ar farw ei fab, JOHN SALUSBURY, yn ddi-blant yn 1608, etifeddwyd y stâd gan ewythr y llanc, y capten John Salusbury. Bu farw yntau hefyd yn ddi-blant ymhen tair blynedd yn 1611, ac fe'i dilynwyd gan frawd arall, WILLIAM SALUSBURY (a adwaenid yn ddiweddarach fel ' Hen Hosanau Gleision'). Gwariasai Syr Robert a'r capten yn bur afradlon yn ystod y 30 mlynedd y buasai'r stadau yn eu meddiant, a phan ddaeth William i'w hetifeddu fe'u cafodd wedi'u morgeisio'n drwm. Ymhen 30 mlynedd arall o lafur caled ac o fyw'n gynnil yr oedd wedi talu'r cwbl o'i ddyledion, wedi adfer ei dreftadaeth ac ychwanegu ati hyd yn oed. Yna, o achos cweryl ffyrnig â'i fab hynaf, OWEN SALUSBURY, ynghylch priodas hwnnw â Mary, merch Gabriel Goodman o Abenbury, protonoter gogledd Cymru, holltodd William ei stadau'n ddwy ran, gan roi'r Rug a thiroedd Sir Feirionnydd i Owen a Bachymbyd a thiroedd sir Ddinbych i'w ail fab, Charles. Yr oedd William yn un o bleidwyr selocaf y brenin yn y Rhyfel Cartref; atgyweiriodd gastell Dinbych ar ei gost ei hun yn 1643, ac er ei fod mewn oedran teg, ei amddiffyn yn gadarn yn erbyn byddin y Senedd. Nid cyn 26 Hydref 1646, wedi deufis o warchae ac ar orchymyn yn llaw'r brenin ei hun, y cytunodd i ildio'r castell i'r cadfridog Mytton. Bu'n aelod seneddol tros sir Feirionnydd 1620-22 a phriododd Dorothy, merch Owen Vaughan o Lwydiarth; bu farw yn 1660. Ymddiddorai mewn llenyddiaeth fel y dengys ei gopi o benillion y Ficer Prichard ac eraill yn llawysgrif Llanstephan 37, a phrydyddai ei hun. Anwadal fu rhawd Owen Salusbury, y mab hynaf, yn ystod y Rhyfel Cartref; yr oedd yn siryf Meirionnydd 1647-8 a bu farw 17 Ionawr 1657/8 gan adael stâd Y Rug i'w fab hynaf, WILLIAM SALUSBURY, a fu'n siryf Meirionnydd 1661-2 ac a fu farw yn 1677. Dilynwyd ef yn ei dro gan ei fab, OWEN SALUSBURY, a droes yn babydd ac a fu farw yn 1694 gan adael dwy ferch. Priododd Elisabeth, yr hynaf, a gafodd Y Rug, â Rowland Pugh o Fathafarn yng Nghyfeiliog, a bu iddynt un mab, WILLIAM PUGH SALUSBURY, a fu farw'n ddi-briod, a dwy ferch. Etifeddwyd stâd Y Rug gan yr hynaf o'r ddwy, MARIA CHARLOTTE (1721 - 1780) a briododd (1) Thomas Pryse, Gogerddan (bu farw 1745), a (2) y Parch. John Lloyd. Bu hi farw 26 Awst 1780 gan adael Rug, trwy ewyllys i Edward Williames Vaughan Salesbury, ail fab Syr Robert Howel Vaughan, Nannau a Hengwrt. Bu farw Edward yn Sicily yn 1807; yna daeth y stâd yn eiddo i'w frawd iau, Griffith Howel Vaughan; wedyn, yn 1848, i nai Griffith, Syr Robert Williames Vaughan, Nannau ac Ystumcolwyn, ac ar ôl Syr Robert i Charles Henry Wynn (1847 - 1911), Glynllifon, trydydd mab Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd barwn Niwbwrch (gweler yr ysgrifau ar deuluoedd Glyn, Glynllifon a Wynn, Y Rug.

Brenhinwr pybyr fel ei dad ydoedd CHARLES SALUSBURY, ail fab amddiffynnwr castell Dinbych; enwyd ef yn ' Knight of the Royal Oak ' yn 1660. Ei unig blentyn i oroesi ydoedd JANE SALUSBURY, aeres Bachymbyd, a thrwy ei phriodas yn 1670 aeth y stâd honno yn eiddo i'w gŵr, Walter Bagot, mab hynaf, aer ac olynydd Syr Edward Bagot, Blithfield, swydd Stafford, yr ail farwnig. Rhagwelodd cefnder Jane, William Salusbury, Y Rug, y byddai'r briodas hon yn debyg o ladd unrhyw obaith am aduno stadau'r Rug a Bachymbyd yn nwylo un o'r Salbriaid, a bu Bachymbyd yn achos gornest faith a chwerw yn y llysoedd rhyngddo ef a gŵr Jane. Eithr ofer fu ei ymdrechion i ad-feddiannu'r stâd, ac yng nghwrs y frwydr gorfu i Gabriel Salusbury, brawd William, ddianc i'r Cyfandir am iddo fod â llaw mewn ffugio gweithred ynglŷn â'r achos.

Awduron

  • Emyr Gwynne Jones, (1911 - 1972)
  • William James Smith

    Ffynonellau

  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families ( 1914 ), 59
  • Archaeologia Cambrensis, 1878, 284-91
  • A. H. Dodd yn The English historical review, 1944, 348-70
  • John Williams, Ancient and modern Denbigh a descriptive history of the castle, borough and liberties with sketches of the lives, character and exploits of the feudal lords ( Dinbych 1856 ), 213-38
  • W. R. Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 ( Brecknock 1895 ), 114, 115
  • W. J. Smith (gol.), Calendar of Salusbury correspondence, 1553 - circa 1700 principally from the Lleweni, Rûg and Bagot collections in the National Library of Wales ( Caerdydd 1954 )
  • N.L.W., Llawysgrifau Rug yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.