Y Bywgraffiadur Cymreig

A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z

SALUSBURY, THOMAS (1564-1586), cynllwynwr. g. 1564, mab hynaf ac aer Syr John Salusbury ieuengaf (gw. dan Salusbury (teulu)) a Chatrin [q.v.], merch Tudur ap Robert Vychan o Ferain. Ymaelododd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, 29 Ionawr 1579/80, pan yn 16 oed (nid yr un yw ef â'r Thomas Salusbury a enwir yn Foster,Reg. of Adm. to Gray's Inn dan y flwyddyn 1573; cf. hefyd D.N.B.). Wedi tymor yn Rhydychen, aeth i wasnaethu iarll Leicester, ei warcheidwad a'i noddwr, a thra yn Llundain ymddengys iddo droi'n Gatholig, a thua 1580 ymuno â nifer o wŷr ieuainc nwyfus eraill o gylch y Llys a bleidiai achos Mari, frenhines y Sgotiaid. Yn gynnar yn 1586 daeth Salusbury a chyfaill arall o Gymro, Edward Jones o Blas Cadwgan ger Wrecsam, dan ddylanwad Anthony Babington a gynllwyniai i ladd Elisabeth, rhyddhau Mari, a'i gosod ar yr orsedd. Daeth y cynllwyn i sylw'r awdurdodau; cipiwyd Babington ddiwedd Awst, ond llwyddodd Salusbury i ddianc i sir Gaerlleon, lle y daliwyd yntau ymhen ychydig ddyddiau. Dygwyd ef a'r cynllwynwyr eraill gerbron llys arbennig yn Westminster, 13 Medi, lle y cafwyd Salusbury yn euog o'r bwriad i gyhoeddi gwrthryfel yn sir Ddinbych pe llwyddasai cynllwyn Babington. Gwadai'n gryf, fodd bynnag, ei fod yn chwenychu lladd Elisabeth. Dienyddiwyd ef 21 Medi, er mawr loes a dychryn i'w deulu ac eraill o'i gydnabod yn sir Ddinbych. Priododd Salusbury, pan yn 10 oed, Margaret, merch i drydydd gŵr ei fam, Maurice Wynn o Wydir. Aeth stad Llewenni i'w frawd, Syr John Salusbury (bu f. 1612) [q.v.].

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B. (a'r awdurdodau a enwir yno);
  • Foster, Alumni Oxon.;
  • D. Mathew, The Celtic Peoples and Renaissance Europe, 64-8;
  • A. H. Dodd, E.H.R., 1944, 354-5;
  • John Williams, Ancient and Modern Denbigh, 166-7.

Awdur:

Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

SALUSBURY, THOMAS , cynllwynwr (Bywg., 846) Mab hynaf John (nid Thomas) a Chatrin o'r Berain ydoedd, ac yn 1561 (nid 1564) y g. ef.

Awdur:

Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor

Ceir blwyddyn ei eni mewn englyn gan William Cynwal, N.L.W. MS. 1553. G. ei frawd (Syr) John yn 1566 (englyn gan Wiliam Cynwal yn N.L.W. MS. 6495 (yn wynebu t. 1); englynion yn enwi pump o'i blant yn yr un llsgr. gan amryw feirdd.

Awdur:

Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor