SAMSON (c. 485—c. 565), abad ac esgob yn yr Eglwys Geltaidd.
mab Amwn (o Ddyfed) ac Anna (o Went). Addysgwyd ef gan Illtud yn Llan Illtud (Dyfed) o 490. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan Ddyfrig ar gais Illtud. Mudodd i fynachlog Pŷr (Dyfed eto) a dilynodd Bŷr fel abad wedi ei farw. Ymwelodd ag Iwerddon (ceir eglwysi yn dwyn ei enw yn Ballygriffin, gerllaw Dulyn, ac yn Ballysamson, swydd Wexford). Dychwelodd i Ddyfed fel meudwy i ogof gerllaw Stackpole Elidyr. Cysegrwyd ef yn esgob gan Ddyfrig ac eraill ar Ddydd Gŵyl Cadair Pedr, 521, sef 22 Chwefror. Mordwyodd i Gernyw (Padstow, Southill, a Fowey), lle y bu byw am rai blynyddoedd, a threiglodd ei ddylanwad hyd ynysoedd Scilly. Oddi yno aeth i wlad Llydaw, i ymsefydlu yn Dol lle treuliodd weddill ei oes; bu hyn cyn 547, pryd y darfu i Deilo ymweled â Samson yma pan yn ffoi rhag y Fad Felen. Prif orchwyl Samson yn Llydaw ydoedd cael rhyddhau Iudual, tywysog ieuanc gogledd Llydaw, o'i gaeth-gadwraeth ym Mharis gan Childebert, y brenin Ffrancaidd, ar gais y rhaglaw dichellgar Chonomor. Wedi gorchfygu a lladd Chonomor, ymwelodd Samson unwaith eto â Pharis, i senedd esgobol y Ffranciaid, yn 556, pryd yr arwyddodd benderfyniadau'r senedd fel ‘Samson peccator episcopus.’ Bu f. 28 Gorffennaf 565.
Llyfryddiaeth:
- Baring-Gould a J. Fisher, Br. SS., iv, 130-70;
- T. Taylor, Life of St. Samson of Dol (S.P.C.K.);
- Hugh Williams, Christianity in Early Britain, a'i arg. o Gildas;
- T. Taylor, The Celtic Christianity of Cornwall.
Awdur:
Y Canghellor John Williams James, D.D., Aber, Bangor