Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAMUEL, EDWARD (1674-1748), clerigwr, bardd, ac awdur. g. yn Cwt-y-defaid, plwyf Penmorfa, sir Gaernarfon. Daeth i sylw Humphrey Humphreys [q.v.], esgob Bangor (hyd 1689), a'i cynorthwyodd i gael addysg a'i gymell i baratoi ar gyfer urddau eglwysig. Ymaelododd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, 19 Mai 1693, fel ‘pauper puer'; dywedir iddo raddio (Thomas, St. Asaph). Cafodd reithoraeth Betws Gwerfil Goch, 4 Tachwedd 1702, eithr newidiodd honno am reithoraeth Llangar (21 Ionawr 1721), ac aros yno hyd ei f. ar 8 Ebrill 1748. Cododd ddau fab yn glerigwyrEDWARD SAMUEL (1710-1762), rheithor Llanddulas, 1735-47, a dilyn ei dad yn Llangar yn 1748, a WILLIAM SAMUEL (1713-1765), ficer Nantglyn, 1743-65, a thad y Dr. David Samwell [q.v.].

Ysgrifennodd Edward Samuel rai carolau a cherddi; gw. esiamplau yn (a) Blodeugerdd, 1759; (b) Llu o Ganiadau, neu Gasgliad o Garolau a Cherddi … o Gasgliad W. Jones, Bettws Gwerfil Goch (Croesoswallt, 1798); (c) Eos Ceiriog, 1823; a (ch) B.M. Add. MS. 14961. Cyhoeddwyd pregethau o'i waith, 1731 a 1766; eithr ei waith gwreiddiol pwysicaf, efallai, oedd Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr (Mwythig, Thomas Jones, 1704, ac arg. eraill). Cyhoeddwyd hefyd y cyfieithiadau a ganlyn o'i waith — (a) Gwirionedd y Grefydd Gristionogol (Llundain, 1716, ac arg. eraill; y gwreiddiol gan Hugo Grotius); (b) Holl Dyledsuydd Dyn (Amwythig, 1718); (c) Prif Ddledswyddau Christion, sef Angenrhaid a Mawrlles Gweddi Gyffredin a Mynych Gymmuno (Mwythig, John Rhydderch, 1722/3; arg. 1793 yng Nghaer — o'r gwreiddiol gan William Beveridge, esgob Llanelwy, y rhan gyntaf wedi ei gyflwyno i'r barnwr Robert Price, Giler, sir Ddinbych, a'r ail ran i Watkin Williams Wynne [sic], Wynstay [sic]; a (ch) Athrawiaeth yr Eglwys (Caerlleon, Roger Adams, 1731) — trosiad o ddau waith, y naill gan Peter Nourse a'r llall gan William Wake, archesgob Caergaint. Ceir ffacsimile o lythyr a ysgrifennodd, 1 Mawrth 1703/4, at Edward Lhuyd yn R. Ellis, Facsimiles of Letters of Oxford Welshmen.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Foster, Alumni Oxon.;
  • Thomas S. Asaph, i, 44; ii, 138 (arg. newydd darluniedig, 1913);
  • Asaph (Em. W.);
  • N.L.W. MSS. 9273. 14104 (traethawd ar gyfer eisteddfod genedlaethol Corwen, 1919);
  • Add. Morris Letters (mynegai).

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth