Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SANDERS, IOAN (fl. 1786); cynghorwr Methodistaidd ac emynydd. Yr oedd yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn agos i Bembre, sir Gaerfyrddin. Cyhoeddodd lyfr o emynau yn 1786 o dan yr enw Hymnau a Chaniadau Duwiol, ar fesurau hen a newydd; gyd a phrofiadau ysgrythurol er cadarnhad i'r gwirionedd (Caerfyrddin, 1786).

Llyfryddiaeth:

  • W. A. Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru;
  • W. Rowlands, Llyfr. y Cym.

Awdur:

Miss Katharine Monica Davies, M.A. Aberystwyth