SAUNDERS, DAVID (1831-1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, pregethwr huawdl;
g. 20 Mai 1831 yng Nghastellnewydd Emlyn. Aeth i Goleg Trefeca yn 1851, ac oddi yno i Brifysgol Glasgow. Dychwelodd adref yn fuan oblegid ei oddiweddyd gan haint. Ymsefydlodd fel gweinidog ym Mhenclawdd, ond ni bu yno'n hir cyn symud i Fethania, Aberdâr, yn 1857. Tra yno bu'n olygydd Y Gwladgarwr am gyfnod. Yn 1862 symudodd i Lerpwl, a than ei arweiniad ef y codwyd adeiladau yr eglwys yn Princes Road; ond yn 1868 symudodd i Abercarn, sir Fynwy. Trodd ei wyneb i'r Triniti, Abertawe, yn 1873, ac yno y gorffennodd ei rawd. Bu f. 14 Hydref 1892. Etholwyd ef yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1877, ac yn llywydd cymdeithasfa'r De yn 1880. Yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr y gynhadledd yn Aberystwyth (22 Medi 1880) i drafod pwnc addysg ganolraddol yng Nghymru. Yn ei gyfundeb ef ei hunan, ymdrechodd yn galed (ond yn ofer) i gael un coleg diwinyddol i'r holl enwad; cymerth ran yng ngwasanaeth sefydlu Coleg Diwinyddol y Bala yn 1891. Priododd ferch i John Howell, Pencoed (Morgannwg), bardd a blaenor — tad y deon David Howell [q.v.].
Llyfryddiaeth:
- Gen., Mawrth 1893, 35; 1907, 35;
- Cymru (O.M.E.), iii, 249 (gan W. James);
- Cofiant D. Saunders, dan olygiaeth W. James a J.M. Jones, 1894.
Awdur:
Y Parch. James Ednyfed Rhys, (1876-1960), Caerdydd