Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAUNDERSON, ROBERT (1780-1863), argraffydd a chyhoeddwr, a fwriodd ei brentisiaeth yn Lerpwl ond a aeth wedyn i'r swyddfa yng Nghaerlleon a argraffai lyfrau Cymraeg dros Thomas Jones (1756-1820) [q.v.] a Thomas Charles — gw. dan Humphreys, John (1734?-1829). Yn 1803 penderfynodd Jones a Charles gychwyn argraffu yn y Bala, a chyflogwyd Saunderson i weithio yno. Yn 1804, peidiodd Thomas Jones â bod yn rhannol yn y fusnes, a chariodd Charles hi ymlaen dan enw morwynol ei wraig (gan ei fod ef mewn urddau), gyda Saunderson yn oruchwyliwr — ymddengys ei fod i gael hanner y proffidiau, heblaw ei gyflog fel crefftwr. Pan fu f. Charles a'i wraig, yn 1814, daeth Saunderson yn berchen y swyddfa, a daliodd ati hyd ei f., 13 Rhagfyr 1863, yn 83 oed. Yr oedd wedi tyfu'n gyfaill mawr i Charles, ac wedi priodi (1806) a Rebecca Thomas, merch i Elisabeth, hoff chwaer Charles. Bu'n gweini ar Charles yn ei saldra terfynol, ac yr oedd gydag ef pan fu f.; sgrifennodd ei atgofion amdano ar gais yr esgob Short [q.v.] o Lanelwy, ac argraffwyd hwy'n ddiweddarach yn Y Goleuad, 22 Mehefin 1878. Ni wyddai Saunderson fawr o Gymraeg pan ddaeth i'r Bala, ac ni bu erioed yn hollol gartrefol yn yr iaith; teimlai felly'n anghysurus yn seiat y Bala, ac ar awgrym Charles ymaelododd yn yr Eglwys Sefydledig — yn wir, tyfodd yn Eglwyswr selog. Ystyrir ei waith fel argraffydd yn dda dros ben, a medrai argraffu Hebraeg a Groeg. Ganddo ef yr argraffwyd bron bopeth o waith Charles yn 1803-14; yn ddiweddarach (1822-37), ef a argraffai'r cylchgrawn Eglwysig rhagorol Y Gwyliedydd, a chyfnodolion Eglwysig eraill. Y mae darlun o Saunderson yn Y Tadau Methodistaidd, ii, 219.

O feibion Robert Saunderson, yr hynaf oedd



CHARLES SAUNDERSON (1810?-1832) (‘Siarl Wyn o Benllyn '), a fu f. o'r colera yn New Orleans, 24 Hydref 1832 (Seren Gomer, 1833, 94) cyn cyrraedd y 23 oed — y mae gan Tegidon’ (John Phillips, 1810-1877) [q.v.], un o brentisiaid Robert Saunderson, farwnad iddo. Cyhoeddwyd Gweddillion o Waith Barddonol Charles Saunderson gan ei dad yn 1845. Mab arall oedd


ROBERT SAUNDERSON , g. 9 Awst 1814, bu f. 19 Awst 1865; hwn, gyda'i ddwy chwaer, a ddaliodd ymlaen ar y fusnes hyd ei farw. Yn 1866 gwerthwyd y gwaith argraffu a chyhoeddi i Edward Jones, hen brentis arall i Robert Saunderson y cyntaf.

Llyfryddiaeth:

  • Ifano Jones, Hist. of Printing and Printers in Wales;
  • D. E. Jenkins, Life of Thomas Charles (chwilier y fynegai);
  • Beirdd y Bala (O.M.E.) — detholion o waith Siarl Wyn, 85-92.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.

Atodiadau a chywiriadau:

SAUNDERSON, ROBERT (Bywg., 851) Cadwyd dyddiadur bychan Saunderson yn Ll.G.C. (N.L.W. 16370). Claddwyd chwaer ddibriod iddo (Frances) ym mynwent S. John's Caerlleon, 29 Tach. 1801. Gw. hefyd Y Faner 1864; g. Charles Saunderson 15 Mawrth 1809 a bed. 28 Mawrth. Gw. hefyd Y Gwyliedydd, X, 1833 (218).

Awdur:

Miss Rhiannon Francis Roberts, M.A., (1923-90), Aberystwyth