SAUNDERS, THOMAS (1732 - 1790), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Thomas Saunders
Dyddiad geni: 1732
Dyddiad marw: 1790
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1732; ni wyddys ddim am ei ddechreuadau, ond gellid meddwl mai gŵr o Bontypŵl ydoedd - hyd yn oed pan oedd yn weinidog urddedig, daliodd i fyw ym Mhont-y-moel ac i weithredu fel goruchwyliwr yng ngwaith haearn Hanbury. I bob golwg, un o ddychweledigion y diwygiad Methodistaidd oedd Saunders; ' Methodistaidd ' oedd ei ddull o bregethu; a chyhudda Philip David ef o ' preaching like the Methodists, observing no order, but rambling,' ac o wahodd lled- Fethodistiaid eraill ' to give a rant ' yn ei gapel yng Nghasnewydd (Cofiadur, 1935, 37); ar y llaw arall, wrth gwrs, rhydd Edmund Jones (Trevecka Letter 2724) ganmoliaeth uchel iddo. Urddwyd ef, ddiwedd 1769, yn weinidog Llanfaches a'i changen yn Heol-y-felin, Casnewydd; yr oedd ganddo hefyd gynulleidfa ym Machen. Bu farw 9 Ionawr 1790, 'yn 58 oed,' a chladdwyd wrth gapel Heol-y-felin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.