Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SCOURFIELD, neu PHILIPPS, Syr JOHN HENRY (1808-1876), awdur; g. yn 1808, mab Owen Philipps, Williamston, gerllaw Neyland, sir Benfro, a'i wraig Elizabeth Anne Scourfield, Moat, sir Benfro. Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow a Choleg Oriel, Rhydychen. Bu'n siryf sir Benfro, 1833, yn aelod seneddol dros Hwlffordd, 1852-68, a thros sir Benfro, 1868-76. Priododd, 1845, Augusta Lort Philipps, Lawrenny, sir Benfro, a bu iddynt ddau fab. Pan etifeddodd, 1862, stad ei ewythr o ochr ei fam, William Henry Scourfield, Moat a Robeston Hall, cymerth ei gyfenw a'i arfau hefyd. Gwnaethpwyd ef yn farwnig gan Disraeli, 18 Chwefror 1876, eithr bu f. ar 3 Mehefin y flwyddyn honno. Ceir rhestr o weithiau Scourfield yn Jnl. Welsh Bibliog. Soc., iii, 37-8. Y cyntaf ydyw Dies Landoveriensis, c. 1847, yn dychanu ysgol newydd Llanymddyfri. Yna daw Lyrics and Philippics, 1859 (arg. arall yn 1864 ac un wedi hynny), The Grand Serio-Comic Opera of Lord Bateman and his Sophia, 1863 (arg. arall yn 1865), a The Mayor's Tale: A Tragic and a Diabolic Opera. By J.H.S., late J.H.P. (heb ddyddiad, eithr ni all fod cyn 1862). Er mai yn Saesneg yr ysgrifennai Scourfield, y mae i lawer o'i ganeuon ddiddordeb Cymreig.

Llyfryddiaeth:

  • H. M. Vaughan, ‘Sir John Henry Scourfield, Baronet, and his writings,’ yn Jnl. W.B.S., iii, 33-8;
  • N.L.W. MSS. 4741-9.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth