Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SEEBOHM, FREDERIC (1833-1912), hanesydd, bancer wrth ei alwedigaeth a Chrynwr yn ei broffes grefyddol; g. 23 Tachwedd 1833 yn Bradford, a bu f. 6 Chwefror 1912 yn Hitchin — am fanylion eraill ei yrfa a'i waith, gw. D.N.B., 1912-21. Caiff le yn y gyfrol hon yn herwydd ei ymchwiliadau pwysig i hanes y ‘gyfundrefn genhedlig’ yng Nghymru gynt, a gyhoeddwyd yn ei lyfr enwog The Tribal System in Wales, 1895. Fel popeth a sgrifennodd Seebohm erioed, y mae hwn yn llyfr darllenadwy dros ben — yn wyrthiol felly a chofio ‘sychder’ ei bwnc. Erbyn heddiw (gw. e.e. ymdriniaeth T. P. Ellis [q.v.]) gwelir i Seebohm roi gormod pwys ar swydd y ‘pencenedl’ yn y cyfreithiau Cymreig — agwedd ‘batriarchaidd’ (fel y credai ef) yr hen fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Ni lwyddodd chwaith i ddelio'n foddhaol â dadfeiliad a thrawsnewidiad yr hen drefn gymdeithasol. Ar gyfrif ei safle fel awdurdod ar hanes cynnar tir-ddaliad yng Nghymru, penodwyd Seebohm yn aelod o'r comisiwn brenhinol ar bwnc y tir yng Nghymru (1893); ei waith ef yw'r rhan fwyaf o'r nawfed bennod yn y llyfr The Welsh People, 1906, gan John Rhys a David Brynmor Jones [qq.v.], a seiliwyd ar ymchwiliadau'r comisiwn hwnnw. Gw. hefyd ei ysgrif yn Trans. Cymm., 1895-6.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.