Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SEFNYN , bardd yn canu ym Môn yn ail hanner y 14eg g.; Canodd awdl foliant i Dudur ap Goronwy o Drecastell a Phenmynydd (bu f. 1367), ac awdl farwnad i Iorwerth Gyriawg [q.v.], bardd o Fôn a flodeuai o gwmpas 1360. Canai hefyd foliant gwragedd, megis rhyw Angharad ‘gymar Dafydd‘; yn gymysg annhrefnus y ceir ei waith yn y llawysgrifau. Y mae'n dra thebyg mai ef oedd tad y bardd Gwilym ap Sefnyn [q.v.].

Llyfryddiaeth:

  • Ll. C. Herg.;
  • M.A. (Myv. Arch.);
  • N.L.W. MS. 4973;
  • I.G.E. (ail arg.), lxxxiii-lxxxiv;;
  • H. Llen. Gym. (Gweirydd ap Rhys)

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban