SEIRIOL (c. 500 - c. 550), abad cyntaf a sylfaenydd eglwys Penmon

Enw: Seiriol
Dyddiad geni: c. 500
Dyddiad marw: c. 550
Rhiant: Owain Danwyn ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: abad cyntaf a sylfaenydd eglwys Penmon
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Williams James

mab Owain Danwyn ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig, ac felly'n gyfyrder i'r brenin Maelgwn Gwynedd ac o gydoedran ag ef. Yn ôl traddodiadau Môn, yr oedd yn gyfaill agos i Gybi Sant. Seiriol ydoedd prif sant ardal Dindaethwy ym Môn, a hefyd Penmaenmawr yn Arfon; 1 Chwefror ydoedd ei ddydd gŵyl yn ôl y calendrau cynharaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.