SEISYLL ap CLYDOG (fl. 730), brenin cyntaf tiriogaeth unedig Ceredigion ac Ystrad Tywi.
Yn ôl achau cynnar yr oedd yn disgyn o Ceredig ap Cunedda Wledig [q.v.], sef y gŵr y tybir mai ef oedd rheolwr Brythonig Ceredigion ac y galwyd y diriogaeth honno ar ei enw. Ar y cyntaf rheolai dros Geredigion yn unig ond yn ddiweddarach ychwanegodd y rhannau hynny o hen Ddyfed a elwir yn Cantref Mawr, Cantref Bychan, a Chantref Eginog, neu, gyda'i gilydd, Ystrad Tywi. O'r herwydd rhoddid yn fynych yr enw Seisyllwg i'r tiriogaethau helaethach hyn a grewyd gan Seisyll, sef ‘Deheubarth’ cyfnod canol y Canol Oesoedd a feddiannid gan ddisgynyddion Cadell ap Rhodri Mawr [q.v.]. Cadwyd parhad teyrnol y diriogaeth hon trwy briodas Rhodri ag Angharad, chwaer Gwgon ap Meurig, brenin olaf hen linach Seisyllwg (bu f. 871) — yr oedd Gwgon ac Angharad yn or-or-ŵyrion Seisyll.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth