SIANCYN FYNGLWYD (fl. c. 1470), bardd;
brodor, y mae'n debyg, o Ddeheudir Cymru. Ni wyddys dim am ei fywyd, ond ceir ychydig o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir dau gywydd i Syr Rhys ap Tomas o Ddinefwr a gyfansoddwyd pan oedd hwnnw'n ŵr ifanc. (Pen. MS. 83 (70); Llanst. MS. 30 (435).) Yr oedd ei fab, Dafydd Fynglwyd [q.v.], yn fardd hefyd.
Llyfryddiaeth:
- B.M. Add. MS. 48;
- Brogyntyn MS. 2 (N.L.W.);
- Cardiff MS. 27;
- Jes. Coll. MS. 17;
- Llanst. MS. 30;
- Pen. MS. 83.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni