Prif waith Sieffre yw ei ‘ Historia Regum Britanniae ’ a ymddangosodd yn nechrau 1136 . Rhwng 1136 a 1148 bu ef ei hun yn gyfrifol am bedair fersiwn ohono. Mewn un fersiwn ceir cyflwyniad i Robert , dug Caerloyw [q.v.] ; mewn un arall, anerchir Robert a Waleran de Beaumont , iarll Meulan (neu Mellent) ; mewn un arall eto cyflwynir y gwaith i'r brenin Steffan ac i Robert ; ac y mae'r bedwaredd heb gyflwyniad o gwbl. Yng nghorff y gwaith (sef llyfr vii yn ôl rhaniad y golygyddion diweddar) daw ‘ Proffwydoliaethau Myrddin ,’ a chyflwynir y llyfr hwn i Alexander , esgob Lincoln (yr oedd Rhydychen yn yr esgobaeth honno). Mae'n sicr fod yr adran hon wedi ymddangos ar wahân rhwng 1134-5 , oherwydd dyfynna Ordericus Vitalis ohoni yn ei ‘ Historia Ecclesiastica ,’ 1135 . Rhennir yr ‘ Historia Regum Britanniae ’ i chwe adran (neu 12 llyfr yn ôl y golygyddion) ac ynddynt dyry Sieffre ‘hanes’ y Brythoniaid o ddyfodiad Brutus hyd ddyfodiad y Saeson ; eithr y mae'n gwbl eglur nad canu clodydd Brythoniaid Cymru ydoedd amcan yr awdur . Dywed Sieffre mai ei brif ffynhonnell ydoedd ‘llyfr hen iawn’ (‘ quendam britannici sermonis librum vetustissimum ') a roddwyd iddo gan ei gyfaill Gwallter , ond ni welwyd arlliw o'r llyfr hwn erioed. Y mae'n sicrach ei fod wedi dibynnu ar Gildas , ‘ Nennius ,’ a Beda yn ogystal ag ar yr hen achau. Tynnodd hefyd oddi ar y Beibl , y tadau eglwysig, ac oddi ar awduron Lladin fel Vergil , Juvenal , Lucan , Sallust , ac Ovid . Y mae ôl y gwahanol ramantau ar y gwaith a defnyddiwyd traddodiadau lleol y gwyddai Sieffre amdanynt. Bu'r gwaith yn eithriadol boblogaidd o'r cychwyn; y mae tua 200 o lawysgrifau ohono ar gael, rhyw 50 ohonynt yn perthyn i'r 12fed g. , ond hyd yn hyn nid yw'r holl lawysgrifau wedi eu cwbl archwilio.
Trwy'r ‘ Historia ’ daeth y brenin Arthur i fri newydd a chyflwynwyd ‘mater Prydain’ i'r byd. Cafwyd trosiad Cymraeg o'r ‘ Historia ’ yn bur gynnar — ‘ Ystoria Brenhinedd y Brytaniaid ’ neu ‘ Brut y Brenhinoedd .’ Credir bod tri pherson gwahanol wedi cyfieithu'r gwaith yn Gymraeg , pob un yn ei ffordd ei hun. Y mae ar gael heddiw naw o gopïau a ysgrifennwyd cyn diwedd y 14eg g. ; er enghraifft, perthyn ‘ Brut Dingestow ’ (llsgr. N.L.W. 5266 ) i tua 1300 , ond y mae wedi ei seilio ar destun a ysgrifennwyd yn nechrau'r 13eg g. Ceir fersiwn hefyd yn ‘ Llyfr Coch Hergest .’ Argraffwyd yr ‘ Historia ’ gyntaf gan Badius Ascanius ym Mharis yn 1508 dan olygiaeth Ivo Cavellatus ; bu argraffiadau eraill yn 1517 a 1587 (yr olaf gan Jerome Commelin yn Heidelberg ). Hyd yn hyn, fodd bynnag, ni chafwyd testun beirniadol cyflawn o'r gwaith. Rhwng 1148 a 1150 cyfansoddodd Sieffre ei ‘ Vita Merlini ,’ cerdd Ladin o 1528 o linellau yn y mesur chweban wedi ei chyflwyno i Robert de Chesney , esgob Lincoln .