SIÔN BRWYNOG (bu f. 1567?), bardd;
mab i William ap Llywelyn ap Iorwerth. Ym Mrwynog, plwyf Llanfflewyn, sir Fôn, yr oedd ei gartref, ac oddi wrth enw'r fferm y cafodd ei gyfenw. Perthynai i ddosbarth y mân ysweiniaid. Byddai'n clera rhan helaeth o'r wlad, a chanodd i uchelwyr Môn, Arfon, Dinbych, Fflint, a Meirion. Bu ymryson fer rhyngddo a Gruffudd Hiraethog ynghylch rhagoriaethau Môn a Thegaingl. Canodd i Harri VIII a Mari, crybwyllodd Edward VI, ond ni soniodd am Elisabeth. Pabydd selog ydoedd heb na chariad na pharch at y grefydd newydd. Ni cheir ei enw ymhlith y beirdd yn eisteddfodau Caerwys. Efallai ei fod yn rhy ifanc yn 1523, a'i fod yn rhy fethiannus, neu wedi marw, yn 1567. Ei wraig oedd Jane, merch Owen ap Ifan ap Madog o'r Ucheldre, Llanfflewyn. Bu iddynt fab o'r enw William Brwynog. Claddwyd Siôn Brwynog ym mynwent Llanddeusant.
Llyfryddiaeth:
- W. J. Gruffydd, Llên Cymru, 1450-1600, 75-6;
- U.C.N.W. Gaianydd papers, 21, ‘Cywyddau Siôn Brwynog';
- J. E. Griffith, P.A.C.F., 79;
- Pen. MS. 122 (123).
Awdur:
Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor