Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SION CAIN (c.1575c. 1650), arwyddfardd. Mab Rhys Cain [q.v.], a anwyd, y mae'n debyg, cyn i'r teulu ymsefydlu yng Nghroesoswallt tua 1578. Dilynodd ei dad yn ei alwedigaeth, ac edrychid arno, yn ei ddydd, fel yr olaf o'r arwyddfeirdd. Gadawodd rai nodiadau sy'n awgrymu ei fod yn rhyw gymaint o amaethwr hefyd. Teithiodd yn helaeth yng Ngogledd Cymru yng nghwrs ei alwedigaeth. Dechreua cofnodion ei yrfa gyhoeddus gydag ymweled â Llywenni, gyda beirdd eraill, yng ngwyliau Nadolig, 1607. Rhwng hynny a 1648 erys dros 300 o'i gywyddau achyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn ei law ei hun. Ni fedrir dyddio dim o'i waith ar ôl 1648, a gellir casglu iddo farw tua'r adeg honno. Bu ei wraig f. 12 Hydref 1646 (Pen. MS. 178 (79)), ac mewn deiseb at y cyrnol Mytton, yn erbyn gosod milwyr i letya yn ei dŷ (yn 1644?), cyfeiria at ei deulu hefyd. Daeth ei lawysgrifau i feddiant Robert Vaughan, Hengwrt, a ohebai'n weddol gyson ag ef. Erys tua 40 o lythyrau a ysgrifennwyd ato ar faterion achyddol (Pen. MS. 327), casgliadau o'i farddoniaeth (Pen. MS. 90, 116, 117), casgliad herodrol (Pen. MS. 149), a chasgliad achau (Pen. MS. 269). Di-awen iawn yw ei gywyddau achau ac ni fedrai amrywio llawer hyd yn oed ar ei linellau agoriadol. Nid oedd cystal crefftwr â'i dad. Y mae ei dariannau arfau yn llawer mwy aflêr, a'i law yn frasach nag eiddo'i dad.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. MSS. Comm., R.W.M.;
  • N.L.W., llawysgrifau Pen. fel uchod, a chartau achau yng nghasgliadau Peniarth, Coedllai, Plas Nantglyn, a Llanbedrog.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth