SKENE, WILLIAM FORBES (1809 - 1892), hanesydd Sgotaidd ac ysgolhaig Celtaidd

Enw: William Forbes Skene
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd Sgotaidd ac ysgolhaig Celtaidd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Isfryn Jones

Ganwyd 7 Mehefin 1809, yn Irvine, sir Inverness, a bu farw 29 Awst 1892 yn Edinburgh.

Yn 1868 cyhoeddodd The Four Ancient Books of Wales, sy'n cynnwys barddoniaeth Gymraeg a geir yn ' Llyfr Aneirin,' ' Llyfr Taliesin,' ' Llyfr Du Caerfyrddin,' a rhan o ' Lyfr Coch Hergest '; cyfieithwyd y farddoniaeth iddo gan D. Silvan Evans a Robert Williams. Ymgais oedd y gwaith hwn i ddidoli'r elfen hanesyddol oddi wrth yr hyn oedd yn ddychmygol ac yn ffug yn yr hen farddoniaeth Gymraeg-Geltaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.