SPARKS, JOHN (1726 - 1769), Morafiad cynnar

Enw: John Sparks
Dyddiad geni: 1726
Dyddiad marw: 1769
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Morafiad cynnar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab i siopwr pwysig (ac aelod yn eglwys Annibynnol Albany) yn Hwlffordd. Daeth yn gynnar at Fethodistiaeth; y mae yng nghasgliad Trefeca (N.L.W.) gryn ddwsin o lythyrau (rhwng 1739 a 1750) a basiodd rhyngddo a Howel Harris; cadwai gyrddau yn nhŷ ei dad yn 1742, ac wedyn mewn ystafell log yn y dref; ac yn 1745 derbyniwyd ef yn gynghorwr. Yn 1751, fodd bynnag, aeth drosodd at Forafiaeth. Rhoes yr ystafell i fyny, ac ymunodd â George Gambold i gychwyn moddion Morafaidd mewn ystordy ar y cei - dyma hedyn y seiat Forafaidd a dyfodd yn 1763 yn gynulleidfa. Ond dyn anodd ei drin oedd Sparks, a phan symudodd y gynulleidfa i'w chapel newydd ar S. Thomas's Green, yr oedd mor bendant am gael ei ffordd ei hunan gyda'r trefniadau nes bu'n rhaid ei ddisgyblu a'i 'ddistewi.' Yn y cyfamser, bu farw ei dad (1762), a bu yntau mor annosbarthus gyda'i fasnach nes torri, yn 1766, a gorfod gadael ei dŷ yn 1768. Fe'i ceir yn cadw ysgol yn 1769, ond yn yr un flwyddyn parlyswyd ef, a bu farw yn 42 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.