SPOONER, JAMES (1789-1856), peiriannydd

Enw: James Spooner
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1856
Plentyn: Charles Easton Spooner
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: David Thomas

Ganwyd 1789; bu farw ym Mhorthmadog, 18 Awst 1856. Daeth i Faentwrog o Birmingham. Cynlluniodd ffordd haearn gul rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, i gludo llechi o'r chwarelau, ar gais W. A. Madocks, a thrachefn ar gais Samuel Holland. Gorffennwyd y ffordd, ' The Festiniog Railway,' Ebrill 1836. Bu hon yn arloesydd ffyrdd haearn culion drwy'r byd.

Mab iddo oedd

CHARLES EASTON SPOONER (1818 - 1889), peiriannydd Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu TirLlenyddiaeth ac Ysgrifennu

a aned ym Maentwrog. Cynorthwyodd ei dad (a dilynodd ef) yn beiriannydd ffordd haearn Ffestiniog; ysgrifennodd a darlithiodd lawer ar ffyrdd haearn culion, ac ystyrir ei Narrow Gauge Railways, 1871, yn waith safonol. Bu farw 18 Tachwedd 1889.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.