STEPHEN, THOMAS (1856 - 1906), cerddor

Enw: Thomas Stephen
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1906
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 24 Chwefror 1856 ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i fyw i Aberdâr pan oedd yn blentyn, a chafodd ei addysg yn ysgol y Comin, Aberdâr. Amlygodd dalent gerddorol yn ieuanc, ac ymunodd â chymdeithas gorawl Aberdâr. Rhoddodd ' Caradog ' (G. R. Jones), arweiniad y côr i fyny, a phenodwyd yn ei le Rhys Evans, a Tom Stephen yn arweinydd cynorthwyol. Yn 1877 penodwyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel Bethesda, Ton, Rhondda. Yn 1878 sefydlwyd côr meibion Rhondda ('Rhondda Glee Society') ac apwyntiwyd ef yn arweinydd. Bu'n arweinydd hefyd i'r 'Aberdare Glee Society,' 'Aberdare String Band,' 'Mid Rhondda Choral Union,' a'r 'Cardiff Exhibition Choir.' Cynorthwyodd Dr. Joseph Parry i berfformio ei opera 'Sylvia.' Enillodd y côr meibion o dan ei arweiniad y wobr yn eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago, U.D.A., yn 1893, ac yn yr eisteddfod genedlaethol ac eisteddfodau eraill. Perfformiodd amryw gyfanweithiau. Bu farw 24 Ionawr 1906 yn Llanilltud-y-faerdre, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberdâr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.