SYMMONS (TEULU), Llanstinan, Sir Benfro

JOHN SYMMONS (1701 - 1771?), aelod seneddol Aberteifi

Mab John Symmons, Llanstinan, (siryf Sir Benfro, 1713), a Martha, merch George Harries, Tregwynt; ganwyd 12 Medi 1701. Methodd â chael ei ddewis yn aelod seneddol sir Benfro yn 1741 eithr llwyddodd i gael cynrychioli Aberteifi yn 1746 (20 Mawrth); daliodd y sedd hyd 1761. Rhoes gymorth ariannol tuag at atgyweirio eglwys Aberteifi ac ailfwrw ac ailosod ei chlychau yn 1748 (Meyrick, Hist. of County of Cardigan). Yr oedd yn gyd-ysgrifennydd y ' Society of Sea Serjeants ' yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn Abertawe ar 13 Mehefin 1752. Bernir mai ef yw'r John Symmons a fu farw yn George Street, Hanover Square, Llundain, 7 Tachwedd 1771.

Mab iddo oedd

CHARLES SYMMONS (1749 - 1826), clerigwr a llenor

Ganwyd yn nhref Aberteifi (medd Asaph). Bu yn Ysgol Westminster (14 Ionawr 1765), prifysgolion Glasgow, Caergrawnt (B.D. 1786), a Rhydychen (D.D. 1794). Ordeiniwyd ef c. 1775, cafodd reithoraeth Arberth (gyda Robeston), Sir Benfro, 1778, a'i ddewis yn brebend Clydau yn eglwys gadeiriol Tyddewi, 11 Hydref 1789; trwy gymorth ei gyfaill William Windham cafodd (yn 1794) reithoraeth Llanbedr Efelffre yn ychwanegol at un Narberth. Priododd, 1779, Elizabeth (bu farw 1830), merch John Foley, Ridgeway, Sir Benfro, a chwaer Syr Thomas Foley. Ymhlith pum plentyn y briodas yr oedd Caroline (isod) a John (isod). Bu farw 27 Ebrill 1826 yn Bath.

Ceir manylion llawnach am yrfa Symmons yn y D.N.B. O 1787 ymlaen bu'n brysur yn cyhoeddi llyfrau - rhai ohonynt yn bregethau, gan gychwyn gyda phregeth a argraffwyd yn 1787; pregeth a draddododd yng Nghaergrawnt a barodd iddo symud o'r brifysgol honno, ac yntau ar fin cymryd ei D.D., i Goleg Iesu, Rhydychen (24 Mawrth 1794), lle y derbyniwyd ef yn D.D. ddeuddydd yn ddiweddarach. Cafwyd mwy nag un argraffiad o rai o'r llyfrau a enwir isod: (a) Inez, 1796, trasiedi; (b) Constantia, 1800, cân ddramatig; (c) Life of Milton, 1806; (ch) Poems by Caroline (ei ferch) and Charles Symmons, 1812 - bu Caroline farw o'r darfodedigaeth 1 Mehefin 1803; (d) The Aeneis of Virgil translated, 1817; (dd) Life of Shakespeare, 1826.

Mab iddo oedd

JOHN SYMMONS (1781 - 1842), bargyfreithiwr

Bu yn Ysgol Westminster, yn Christ Church, Rhydychen (ymaelodi 11 Ebrill 1799, B.A. 1803, M.A. 1806), ac a ddaeth yn fargyfreithiwr (Lincoln's Inn), 24 Tachwedd 1807, a dewis ymarfer yng nghylchdaith Cymru. Cyfieithodd Agamemnon Æschylus a bu'n cynorthwyo ei dad i gyfieithu gwaith Fersil. Bu farw yn 1842, yn Deal o bosibl.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.