Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SYPYN CYFEILIOG , fl. 1340-90 , bardd . Ei gân enwocaf yw'r ‘awdl unnos’ i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelldref , ger Church Stoke , sy'n gorffen a'r llinellau adnabyddus, ‘ Dyred pan fynnych, cymer a welych, a gwedi delych, tra fynnych trig .’ Dywedir yn y llawysgrifau mai awdl fyrfyfyr ydyw, y gorfodwyd y bardd i'w chanu am ei groeso pan drodd i mewn i dŷ Dafydd am loches o'r storm, a chael bod gwledd ymlaen yno. Fe'i canwyd cyn 1400 gan ei bod i'w chael yn ‘ Llyfr Coch Hergest ,’ o dan un o'r amrywiol enwau a ddodir ar y bardd hwn, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd . Dywedir yn y llawysgrifau hefyd mai'r un bardd yw Cnepyn Gwerthrynion a Bach Buddugre . Ond y mae'n sicr i fardd gryn ysbaid o'i flaen ddwyn yr enw Cnepyn Gwerthrynion [q.v.] , oblegid fe sonnir amdano gan Wilym Ddu o Arfon . Awgryma Ifor Williams mai ‘cymysgu tri bardd bach a wnaethpwyd,’ sef y Cnepyn , Bach Buddugre , a Sypyn Cyfeiliog . Y mae gan y Sypyn gywydd moliant i Harri Salbri (bu f. 1400 ) a'i wraig Annes Kwrtes (h.y. Courtois ) , a hefyd y ddau gywydd o'i waith a roddir yn Iolo Goch ac Eraill . Cyfeirir at y bardd hwn gan Gruffudd Llwyd ( c. 1385 ) yn ‘ Cywydd y Cwest ,’ a hefyd yn ‘ Araith Iolo Goch ’ (gw. Areithiau Pros , 12-7).

Llyfryddiaeth:

  • Poetry in R.B.H.‘Llyfr Coch Hergest’ (Jesus College MS. cxi). Cyfeirir at dudalennau'r llawysgrif ei hun, yn hytrach na'r argraffiadau ohoni. Gw. ;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 6496 (247b);
  • Llawysgrif Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 2 (356b);
  • Llawysgrif Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 467b (32);
  • Llawysgrif Wynn 1 (210);
  • etc.;
  • Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 , a (gol.): , 1925; arg. arall, 1937 .

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban.