Fel y gwelir y mae hanes ei yrfa (a geir yn llawn yn y D.N.B., etc.) ynghlwm â hanes Prydain. Pan briododd, yn haf 1708, y dechreuwyd y cyswllt â Chymru. Ei wraig oedd Cecil, merch Charles Mathew, Castell Menich, sir Forgannwg, ŵyres ac aeres y barnwr David Jenkins [q.v.], Hensol. Adeiladodd gastell ar y dull Tuduraidd yn Hensol, castell y gwnaeth ei fab ychwanegiadau ato yn ddiweddarach. Dyrchafwyd yr arglwydd-ganghellor i'r bendefigaeth ar 5 Rhagfyr 1733. Bu f. 14 Chwefror 1736/7.
Dilynwyd y barwn Talbot 1af gan ei ail fab, WILLIAM TALBOT (1710-1782), ail farwn Talbot, stiward y teulu brenhinol; daeth yn iarll Talbot yn 1761. Pan fu ef f. yn 1782 darfu am yr iarllaeth ac aeth y farwniaeth i'w nai, JOHN CHETWYND TALBOT, a grewyd yn iarll Talbot o Hensol (y 1af) yr un pryd; mab iddo ef oedd y Syr CHARLES CHETWYND TALBOT, ail iarll Talbot o Hensol — y ceir ei hanes yntau hefyd yn y D.N.B.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth