JOHN IVORY TALBOT, Lacock Abbey, Chippenham, Wiltshire, oedd y Talbot hwn. Ei wraig oedd MARY MANSEL, merch Thomas Mansel (a fu f. 1723), y barwn Mansel 1af. Mab o'r briodas hon oedd THOMAS TALBOT, offeiriad, a ddaeth, maes o law, sef ar farwolaeth Bussy, 4ydd farwn Mansel, yn ddi-etifedd yn 1750, yn aer stadau Margam a Penrice (Penrhys); yr oedd Bussy a Mary Mansel yn frawd a chwaer.
Mab i Thomas Talbot a'i wraig Jane, merch Thomas Beach, oedd THOMAS MANSEL TALBOT (1747-1813). Priododd ef Mary Lucy Fox Strangways, merch Henry, ail iarll Ilchester, a daeth yn dad Christopher Rice Mansel Talbot (isod).
Ceir llawer o gyfeiriadau at John Ivory Talbot, Thomas Talbot, Thomas Mansel Talbot, a Christopher Rice Mansel Talbot ymhlith dogfennau'r Mawnseliaid a'r Talbotiaid yn Ll.G.C.; gw. hefyd lawysgrifau John Montgomery Traherne [q.v.] (brawd-yng-nghyfraith C. R. M. Talbot) yn Ll.G.C. Er enghraifft, ceir cyfeiriad at ddiddordeb Thomas Mansel Talbot yn niwydiannau'r ardal y preswyliai ynddi yn N.L.W. MS. 6582. Y mae llythyrau a ysgrifennodd C. R. M. Talbot at J. M. Traherne yn NLW MS. 6599-6600; gw. hefyd ddogfennau Margam a Penrice 9237-45, heblaw cyfeiriadau yng nghatalog Ll.G.C. o rai o'r llythyrau sydd yn yr un casgliad o ddogfennau.
O'r pedwar hyn
Bu C. R. M. Talbot f. 17 Ionawr 1890 gan adael dwy ferch ddi-briod, sef Olivia Emma Talbot (a fu f. 1894) ac EMILY CHARLOTTE TALBOT (bu f. 1918), a merch arall, Bertha Talbot, gwraig John Fletcher, Saltoun Hall, swydd Haddington, Sgotland. Yr oedd y chwiorydd hyn yn noddwyr hael i lawer o fudiadau yn sir Forgannwg, ac yn enwedig i eglwysi; Emily Talbot a drefnodd i Walter de Gray Birch, o'r Amgueddfa Brydeinig, gatalogio (mewn chwe chyfrol brintiedig) y miloedd dogfennau Margam a Penrice sydd bellach yn Ll.G.C. Buasai Theodore Mansel Talbot, brawd y tair chwaer, f. o flaen ei dad.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth