Rhoes y Dr. Gwenogvryn Evans inni argraffiad gwych o'r llsgr. The Book of Taliesin, 1910; hwn yw'r testun safonol bellach. Cyfeiliornodd ysywaeth yn ddybryd yn ei ragymadrodd a'i nodiadau; ond da cael testun sicr o bob llinell, gan fod cyfoeth o ddefnydd gwerthfawr yma i'r neb a astudio ddechreuadau cerdd dafod Gymreig neu ddatblygiad y Gymraeg ei hun yn y cyfnod cynnar. I'r graddau y ceir dehongliad sicrach o'r iaith, daw golau newydd hefyd ar hanes yr Oesoedd Tywyll.
Mae un peth bellach yn amlwg. Priodolwyd ar gam i Daliesin, y Cynfardd o ddiwedd y 6ed g., liaws o ganeuon a ffurfiai ran o gyfarwyddyd neu chwedl a luniwyd mewn oes ddiweddarach, efallai yn y 9fed g. Prif gymeriad y chwedl ddramatig honno yw Gwion Bach a lyncodd y tri dafn rhinweddol a neidiodd yng nghyflawnder yr amser o bair Cyridwen Wrach. Llyncwyd yntau gan y wrach ddigofus, ac ail aned fel baban iesin ei dalcen a wyddai bopeth am a fu, a oedd, ac a fyddai. Hwn yw'r Taliesin a ganodd i Elffin ab Gwyddno, a'i gampau ef a groniclir mewn rhyddiaith a chân yn y chwedl a elwir ‘Hanes Taliesin’ (Guest, The Mabinogion, iii). Ni pherthyn ddim oll i'r Taliesin hanesyddol ond aeth yn llawer mwy poblogaidd nag ef, fel y gwelir yng nghyfeiriadau'r Gogynfeirdd. Hawdd yw dosbarthu cynnwys ‘Llyfr Taliesin’ rhwng y ddau (oddieithr y canu crefyddol). Lleolir y Gwion-Daliesin yn ardal Llyn Tegid, llys Maelgwn yn Negannwy, a llys Elffin ple bynnag yr oedd. Am y Cynfardd, Taliesin, nid oes sicrwydd. Yn ôl ei eiriau ef ei hun nid oedd yn perthyn i ddeiliaid Urien, ond teithiodd at deyrnedd y gogledd ac aros i'w clodfori. Gellid felly roi ei gartref yng Nghymru, a chan y priodolwyd iddo foliant Cynan ab Brochfael brenin Powys, yr hen Bowys helaeth, mae esgus o reswm dros ei wneuthur yn ŵr o Bowys — y rhan nesaf o Gymru at Ystrad Glud, a'r man hwylusaf i gychwyn am Elfed (‘Elmet,’ ger Leeds) a Gwallawg: Rheged ac Urien. Gelwir hen fedd o'r cynoesoedd yng ngogledd Aberteifi yn Fedd Taliesin. Odid nad Taliesin y chwedl yw hwn, nid Taliesin hanes.
Athro-Emeritus Syr Ifor Williams, D.Litt., Ll.D., F.B.A., F.S.A., (1881-1965), Pontlyfni