Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



TAYLOR, HENRY (1845-1927), hanesydd a hynafiaethydd; g. yn Wigan, mab Henry Taylor, perchennog glofa. Daeth yn gyfreithiwr yn 1864 ac, o 1873, yn brif bartner ffyrm Boydell a Taylor, cyfreithwyr, Caer; o 1874 hyd 1906 ef oedd clerc corfforaeth tre'r Fflint. Priododd Venables, Whitchurch, sir Amwythig, a ganwyd pedair merch o'r briodas. Cofir am Taylor yng Nghymru, yn bennaf, fel awdur Historic Notices … of the Borough and County-Town of Flint, 1883. Yr oedd, yn ei gyfnod, yn un o'r rhai mwyaf hyddysg yn hanes a hynafiaethau gogledd-ddwyrain Cymru a sir Gaerlleon. Cyfrifir ef yn bennaf sylfaenydd y Flintshire Historical Society ac ysgrifennai i gylchgrawn y gymdeithas honno a chylchgronau cymdeithasau cyffelyb yn sir Gaerlleon, etc. Cynullodd lu o ddefnyddiau — llyfrau, llawysgrifau, a chof ysgrifau, a darluniau — ynglŷn â sir y Fflint, a throsglwyddodd y casgliad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru — yr oedd yn aelod o lys a chyngor y Llyfrgell — i ffurfio cnewyllyn yr hyn a elwir yn ‘Flintshire Historical Collection.’ Y mae adran llawysgrifau a chofysgrifau Taylor yn y casgliad arbennig hwn yn ymestyn o N.L.W. MS. 6267 hyd N.L.W. MS. 6331, ac yn dangos mor eang oedd cylch ei ddiddordebau; cadwodd Taylor, er enghraifft, lu mawr o'r llythyrau a dderbyniodd oddi wrth haneswyr a hynafiaethwyr yng Nghymru, Lloegr, etc. Yr oedd yn F.S.A. a chafodd radd M.A. ‘er anrhydedd’ gan Brifysgol Manceinion. Bu f. 3 Ionawr 1927.

Llyfryddiaeth:

  • N.L.W. Handlist of MSS., ii, 164-9;
  • marw-goffa yn Flintshire Observer, 6 Ionawr 1927 a'r Cheshire Observer, 8 Ionawr 1927.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth