TELFORD, THOMAS (1757-1834), peiriannydd sifil enwog a ddechreuodd fel prentis saer maen;
g. 9 Awst 1757 yn Westerkirk, pentref bychan diarffordd yn Dumfries, Sgotland, yn fab i fugail. Ceir ei hanes yn D.N.B. a gweithiau eraill; gw. hefyd Syr Alexander Gibb, The Story of Thomas Telford: The Rise of Civil Engineering (London, 1935); yma ni bydd a fynnom ond â'i waith yng Nghymru a'r goror. Daeth Telford yn ‘surveyor of public works’ yn swydd Amwythig ac, yn 1793, yn beiriannydd, pensaer, etc., i gwmni'r Ellesmere Canal, a oedd am gysylltu afonydd Merswy, Dyfrdwy, a Hafren. Golygodd y gwaith ar y gamlas i Telford orfod gwneuthur dau beth a oedd yn anghyffredin braidd ym Mhrydain ar y pryd ac a brofodd gymaint o wreiddiolder a berthynai iddo fel cynlluniwr a pheiriannydd, sef gwneuthur y pontydd sydd yn cario dŵr y gamlas dros ddyffryn afon Ceiriog yng Nghastell y Waun (Chirk) a thros ddyffryn Dyfrdwy ym Mhontycysylltau — dau waith y dywedwyd amdanynt eu bod ‘among the boldest efforts of human invention in modern times.’ Bu gwaith Pontcysylltau ar droed o 1795 hyd 1805 a'r llall o 1796 hyd 1801. Wedi hyn bu Telford yn brysur mewn mannau eraill; er enghraifft, yn Sgotland — ffyrdd, pontydd, a phorthladdoedd, a'r Caledonian Canal. Yr oedd mor brofiadol yn y gwaith o wneuthur neu wella ffyrdd a phontydd nes y gofynnwyd iddo gan y Llywodraeth dalu sylw i'r ffordd sydd yn arwain o Amwythig i Gaergybi — y ‘ffordd bost,’ i Iwerddon, yr ‘Holyhead Road’ fel y gelwir hi hyd heddiw, ac yn arbennig i gwestiwn pontio Menai a thrwy hynny osgoi perygl croesi rhwng sir Gaernarfon a sir Fôn mewn ysgraffau. Cynlluniodd Telford bont grog dros gulfor Menai, rhywbeth nad oedd peirianwyr Lloegr ddim wedi gwneud fawr o arbrawf arno cyn hyn. Wedi i arbenigwyr roddi barn ar y cynllun ac i un o bwyllgorau'r Tŷ Cyffredin ei gymeradwyo penderfynodd y Senedd ddarparu'r arian. Dechreuwyd gwaith ar y bont ym mis Awst 1819 a chwplawyd ef, bron, ym mis Ebrill 1825. Yn 1822-6 gwnaeth Telford bont gyffelyb dros afon Conwy. Heblaw ei waith yng Ngogledd Cymru a'r gororau bu Telford yn paratoi adroddiadau ar rai o ffyrdd De Cymru; gw. y rhestr ffynonellau isod. Am ei waith yn Amwythig (y castell, y carchar, eglwysi, etc.) a sir Amwythig gw. llyfr Syr Alexander Gibb. Bu Telford f. yn Llundain ar 2 Medi 1834 a chladdwyd ef ar y nawfed o'r mis yn abaty Westminster.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B. a'r ffynonellau a roddir ynddo;
- Syr Alexander Gibb, The Story of Telford, The Rise of Civil Engineering (London, 1935) — noder y llyfryddiaeth lawn a'r darluniau sydd yn y gwaith hwn;
- Atlas to the Life of Thomas Telford, Civil Engineer, containing eighty-three copper plates illustrative of his professional labours, 1838;
- T. G. Cumming, Description of the Iron Bridges of Suspension now erecting over the Strait of Menai at Bangor and over the River Conway (London, 1824);
- W. A. Provis, The Menai Bridge, 1828;
- Pring, Particulars of the Grand Suspension Bridge over the Straits of Menai (London, 1829);
- Thomas Telford, Report, Plan, and Estimate for building a bridge over the Menai Strait at Bangor Ferry, 1818;
- Thomas Telford, River Dee Navigation, 1817-?;
- Reports of Commissioners on the Holyhead Road, 1821-2, 1824-8;
- Report for Committees on Holyhead Roads, Harbours, etc., in the years 1810, 1811, 1815, 1816, 1817, 1819, 1820, 1822 (rhai o'r rhain yn cynnwys adroddiadau gan Thomas Telford ei hun);
- Report (to the Lords Commissioners of His Majesty's Treasury) on the Mail Road through South Wales, made under the direction of Thomas Telford, 1825.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth