Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THELWALL, JOHN (1764-1834), diwygiwr, darlithydd a bardd, oedd fab i Joseph Thelwall (1731-1772), marsiandwr sidan yn Llundain, a hanoedd o gangen o deulu Thelwall, Plas y Ward, a sefydlodd yn Crosby, Lancashire. Fe'i g. yn Chandos Street, Covent Garden, 27 Gorffennaf 1764. Cyhoeddodd Poems upon various subjects (London, 1787), a bu'n olygydd y Biographical and Imperial Magazine. Daeth o dan gyfaredd y Chwyldro Ffrengig, ac ymunodd a'r ‘Society of the Friends of the People.’ Oherwydd ei ddaliadau radicalaidd eithafol fe'i gosodwyd i aros ei brawf, 1-5 Rhagfyr 1794, ar ôl ei garcharu yn Nhŵr Llundain er y mis Mai cynt, eithr fe'i dedfrydwyd yn ddieuog. Yn fuan wedi hyn cyhoeddodd ei Poems written in close confinement in the Tower and Newgate (London, 1795). Tua 1798 cymerodd fferm ger Llyswen, sir Frycheiniog, ond dychwelodd i Lundain ymhen dwy flynedd i ddarlithio yn bennaf ar rethreg, ac i ddysgu cynhyrchu'r llais. Yr oedd yn gyfeillgar â Southey, Hazlitt, Coleridge, a Lamb. Yn 1801 cyhoeddodd Poems chiefly written in retirement … with a prefatory memoir of the life of the author (Hereford, 1901). Cynnwys y gyfrol hon nifer o gerddi yn ymwneud â Chymru. Ysgrifennodd Thelwall hefyd nifer o weithiau ar bynciau gwleidyddol a rhethreg.

Bu f. yn Bath 17 Chwefror 1834. Priododd (1) Susan Vellum, (2) Cecil Boyle.

Llyfryddiaeth:

  • Poems Chiefly Written in Retirement, 1801;
  • D.N.B.

Awdur:

Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch, Aberystwyth