THELWALL (TEULU), Plas y Ward, Bathafarn, Plas Coch, a Llanbedr, sir Ddinbych

JOHN THELWALL

Daeth John Thelwall, y cyntaf o'r teulu, i ardal Rhuthyn gyda Reginald de Grey tua'r flwyddyn 1380. Priododd JOHN THELWALL, ei fab, Ffelis, merch ac etifeddes Walter Cooke neu Ward, o Blas y Ward, ac felly y cysylltwyd gyntaf y lle hwnnw a'r teulu. Mab i Edward Thelwall, a oedd yn or-ŵyr i John a Ffelis, oedd RICHARD THELWALL, a fu farw yn eisteddfod Caerwys yn 1568 tra'n eistedd ar y comisiwn yno.

Etifedd Richard Thelwall oedd

SIMON THELWALL (1526 - 1586)

Fe'i derbyniwyd yn fyfyriwr i'r Inner Temple ym mis Tachwedd 1555, a'i wneud yn fargyfreithiwr ar 8 Chwefror 1568. Bu'n aelod seneddol dros Ddinbych, Chwefror-Mawrth 1553, Medi-Rhagfyr 1553, a 1571, a sir Ddinbych, 1563-7. Bu'n uchel-siryf yn 1572 ac yr oedd yn aelod o gyngor y gororau. Dewiswyd ef yn farnwr cynorthwyol i John Throgmorton, Caer, yn 1576 a 1579, ac yn ddirprwy-farnwr yn 1580 a 1584. Yn y swydd honno yn 1584 y dyfarnodd ef Rhisiart Gwyn, y merthyr Catholig o Lanidloes, i'w farwolaeth erchyll. Yr oedd yn ŵr craff, cyfrwys, ac, yn ôl Simwnt Fychan, yn hyddysg mewn wyth iaith. Wedi marw Gruffudd Hiraethog, c. 1560 ymddengys i Simwnt adael teulu Mostyn a myned yn fardd teulu at Thelwaliaid Plas y Ward. Mewn awdl foliant i Simwnt Thelwall geilw'r bardd ef yn gyfaill a meistr iddo, a dywedir mai trwy ' eiriol S. TH. y troes S. F. epigram Martial am wynfyd neu ddedwyddyd bydol i Gymraeg.' Yn NLW MS 354B (12) ysgrifennodd rhyw gopïwr: ' Simwnt Thelwall oedd ŵr clodfawr, fe a ysgrifennodd lyfrau o'r gyfraith, ac fe a'i gwnawd yn un o'r barwniaid ac yn ustus y saith sir gan y Frenhines Elsbeth sef Sir Gaer a chwe sir Gwynedd.' At hyn oll medrai lunio englyn cywrain fel y prawf ei gyfraniad ef i'r ymryson a fu rhyngtho a Syr Rhys Gruffydd a William Mostyn (NLW MS 1553A (761)). Priododd (1) Alis, merch Robert Salisbury o Rug, (2) Jane, merch John Massy o Broxon, sir Gaer, (3) Margaret, merch Syr William Gruffydd o'r Penrhyn. Bu farw 15 Ebrill 1586, a chladdwyd ef yn Rhuthyn.

Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd

EDWARD THELWALL (bu farw 29 July 1610)

Priododd (yn drydedd wraig) Catrin o'r Berain. Priododd SIMON, ei fab o'r ail briodas, Gaenor, ferch y Dr. Elis Prys o Blas Iolyn, ac o'r briodas hon y disgynnodd Thelwaliaid Rhuthyn.

O linach John Thelwall mab Eubule ap Simon ap Dafydd ap John Thelwall Hen, a'i wraig, Margaret, merch Ieuan ap Dio ap Meredydd o Langar, y disgynnodd cangen Parc Bathafarn o'r teulu. Mab iddynt hwy oedd JOHN WYNN THELWALL (1528 - 1586). Priododd ef Jane (a fu farw 12 Rhagfyr 1585), merch Thomas Griffith o Bant y Llongdy yn Nhegeingl. Bu farw 29 Hydref 1586. Ganwyd iddynt hwy 10 o feibion a phedair merch, a haedda nifer ohonynt sylw arbennig.

JOHN THELWALL (1533 - 1630)

Yr hynaf o'r meibion, a feithrinwyd yn y llys brenhinol yng ngwasanaeth yr arglwyddes Warwick. Pan oedd yn 22 mlwydd oed gadawodd y llys i briodi Elisabeth, merch a chydetifeddes Robert ap Wyn o Bacheirig a Bryn-cynric. Gwnaed ef gan y brenin Iago yn oruchwyliwr castell Rhuthyn am ei oes.

RICHARD THELWALL (bu farw 1630)

Pedwerydd mab John Wynn Thelwall, a briododd Margaret, merch ac etifeddes John ab Edward Lloyd o Blas Llanbedr, Dyffryn Clwyd. Yno yr ymsefydlodd ef, ac o'r briodas hon y daeth teulu Thelwall Llanbedr. Rhoddodd y brenin Iago iddo yntau drwydded i fod yn oruchwyliwr castell Rhuthyn. Pan fu farw yn 1630 ymddengys ei fod dros 80 mlwydd oed.

EUBULE THELWALL (1562 - 1630), prifathro Coleg Iesu, Rhydychen

Pumed mab John Wynn Thelwall. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster a Choleg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd yn B.A. yn 1577. Aeth i Rydychen yn 1579, a chymerth radd M.A. yn 1580. Fe'i derbyniwyd yn aelod o Gray's Inn, a gwnaed ef yn fargyfreithiwr yn 1599, ac yn drysorydd Gray's Inn yn 1625. Derbyniodd swydd prif-feistr swyddfa'r Ymddeoliaid (Alienation Office) a dyrchafwyd ef yn un o feistri uchel lys y Chancery, 1617-30. Urddwyd ef yn farchog ar 29 Mehefin 1619, ac fe'i etholwyd yn aelod seneddol dros sir Ddinbych 1624-6 a 1628-9, ac yn brifathro Coleg Iesu, Rhydychen, yn 1621. Bu farw'n ddibriod 8 Hydref 1630, yn 68 mlwydd oed, a chladdwyd yng nghapel Coleg Iesu, lle y cododd ei frawd, Syr Bevis Thelwall, gofgolofn iddo. Galwyd ef yn ail-sefydlydd y coleg oherwydd iddo wario £5,000 ar atgyweirio ei neuadd a'i gapel, ac am iddo lwyddo yn 1622 i sicrhau siartr newydd i'r coleg gan y brenin Iago I. Gadawodd i'w nai, John, ei stad, a Phlas Coch a godasai iddo'i hun ym mhlwyf Llanychen, sir Ddinbych. Y mae darlun ohono'n blentyn ar gadw yng Ngholeg Iesu.

SIMON THELWALL (born 1561), cyfreithiwr

Seithfed mab John Wynn Thelwall. Derbyniwyd ef i Goleg Balliol, Rhydychen, tua 16 Hydref 1581, yn 20 mlwydd oed. Graddiodd yn B.A. 28 Chwefror 1584, ac yn 1591 aeth yn fyfyriwr i Lincoln's Inn. Fe'i dewiswyd yn brif glerc i'r barnwr Syr Daniel Dunne, ac yn gofrestrydd Bangor. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros Ddinbych, 1593-1614. Priododd Ann Biggs, perchen stad yn Essex.

AMBROSE THELWALL (1570 - 1652)

Nawfed mab John Wynn Thelwall. Bu ef yng ngwasanaeth Syr Francis Bacon cyn mynd yn geidwad y gwisgoedd i Iago I, Siarl I, a Siarl II (pan oedd hwnnw'n dywysog Cymru). Bu farw 5 Awst 1652, a chladdwyd ym mynwent Llanrhydd.

BEVIS THELWALL (- 1600 -)

Degfed mab John Wynn Thelwall. Rhwymwyd ef yn brentis i farsiandwr sidan mwyaf y dydd yn Siêb, Llundain, a ofalai am ofynion y frenhines Elisabeth. Priododd ferch i'w feistr, ac ar hynny aeth yn gydymaith busnes gyda'i dad-yng-nghyfraith. Daeth yn gyfeillgar â'r brenin Iago I, pan oedd yn frenin yn Sgotland, ac ar ei ddyfodiad i orsedd Lloegr gwnaed Thelwall yn was ei ystafell wely. Priododd deirgwaith.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.