Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THIRLWALL, CONNOP (1797-1875), esgob Tyddewi; g. 11 Chwefror 1797. Ni bydd a fynnom yma â'r gŵr enwog a'r ysgolhaig mawr hwn ond yn ei gyswllt â Chymru; y mae ysgrif lawn arno yn y D.N.B. Penodwyd ef yn esgob Tyddewi yn 1840, a bu gwrthwynebiad mawr i'r penodiad: yn Lloegr, yn herwydd ehangrwydd ei syniadau diwinyddol a gwleidyddol; yng Nghymru, am nad oedd yn Gymro — ymosodwyd yn Yr Haul ar y penodiad, a sgrifennodd Dewi o Ddyfed’ (David James, 1803-1871) [q.v.] lythyr cryf at Thirlwall yn erfyn arno wrthod yr esgobaeth, ar y tir na ddylid bod yn esgob yng Nghymru heb fedru Cymraeg — gw. y llythyr yng nghofiant James, 32-9. Eithr nid yn unig ni ddaliodd Thirlwall unrhyw ddig at David James (cynigiodd archddiaconiaeth iddo yn 1860), ond aeth ati i ddysgu Cymraeg, ac ymhen blwyddyn gallai bregethu yn Gymraeg; cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau Cymraeg, dan olygyddiaeth E. O. Phillips [q.v.] yn 1877 — gwir mai Cymraeg anystwyth ac annealladwy i'r werin a oedd ganddo. Yr oedd yn esgob egnïol a hael. Dywedir iddo rannu £40,000 mewn elusennau, gan gynnwys chwanegu at gyflogau ei bersoniaid tlotaf; symbylodd godi ysgolion, a sefydlu'r coleg hyfforddi yng Nghaerfyrddin; atgyweiriwyd dros 180 o eglwysi'r esgobaeth; ac ymwelodd â phob rhan o esgobaeth eang afrosgo Tyddewi. Eto, ni ddaeth byth yn boblogaidd; gŵr oeraidd, academaidd, llym oedd ef, ac ni lwyddodd ef na'i glerigwyr o Gymry i glosio at ei gilydd. Ar y llaw arall, a chofio tueddiadau rhyddfrydig Thirlwall, siomedig fu ei agwedd pan ddaeth Rowland Williams (1817-1870) [q.v.] i drybini — gw. Life of Rowland Williams, i, 333-7. Rhwng popeth, ymbellhaodd yn raddol oddi wrth ei glerigwyr, a dibynnai'n gynyddol ar ei archddiaconiaid. Collodd ei olygon, a pharlyswyd ef; ymddeolodd o'i esgobaeth yn 1874, a bu f. yn Bath, 27 Gorffennaf 1875; claddwyd yn abaty Westminster.

Llyfryddiaeth:

  • John Morgan, Four Biographical Sketches, 1892;
  • a'r cyfeiriadau eraill uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.