Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, ALFRED , barwn Pontypridd (1840-1927), o Fronwydd , Caerdydd ; g. 16 Medi 1840, yn Llwyn-y-grant, Pen-y-lan, Caerdydd, yn fab i Daniel Thomas, ymgymerwr. Addysgwyd ef yn ysgol Weston, ger Bath, a threuliodd ei oes ym musnes ei dad. Daeth yn ŵr amlwg mewn llawer o gylchoedd cyhoeddus. Bu'n aelod o gyngor dinas Caerdydd am 11 mlynedd o 1875 ymlaen ac yn faer yn 1881-2. Bu'n aelod seneddol dros etholaeth newydd dwyrain Morgannwg o 1885 hyd ei ymddiswyddiad yn 1910. Yr oedd hefyd yn ustus heddwch dros Gaerdydd a Morgannwg, ac yn ddirprwy-raglaw Morgannwg. Rhoes gefnogaeth frwd i'r Coleg Prifysgol a godwyd yng Nghaerdydd yn 1882 a bu'n aelod o'r cyngor ac yn llywydd. Ef hefyd oedd llywydd cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bedyddiwr ydoedd o ran crefydd, ac etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1886. Gwnaed ef yn farchog yn 1902, ac yn farwn yn 1912. Bu f. yn ddi-briod 14 Rhagfyr 1927.

Llyfryddiaeth:

  • WwW, 1921;
  • S. W. Daily News, 15 Rhagfyr 1927;
  • The Daily Telegraph, 15 Rhagfyr 1927;
  • West. Mail, 25 Mehefin 1930;
  • Ser. Cymru, 23 Rhagfyr 1927;
  • Ser. G., 1928, 40;
  • Adroddiad Undeb Bed. Cym., 1886.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth