Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS ap RHODRI (c.1295-1363), nai Llywelyn ap Gruffydd [q.v.]; mab Rhodri ap Gruffydd [q.v.] a merch o'r enw Catherine. Etifeddodd stadau ei dad yn 1315. Cafodd wared o'r rhan fwyaf o'i stad yn sir Gaerlleon (Fawr) a byw yn Tatsfield, ei faenor yn Surrey. Yn ddiweddarach prynodd faenor Bidfield yn sir Gaerloyw a maenor Dinas ym Mechain Iscoed a thrwy hynny aildrefnu iddo'i hun gysylltiad tiriogaethol â Chymru. Y mae'n amlwg fod iddo fwy o ddiddordeb yng ngwlad ei gyndadau nag y mae ei fywyd fel uchelwr tiriog yn Lloegr yn ei awgrymu ar yr olwg gyntaf; profir hyn gan y cais (aflwyddiannus) a wnaeth i hawlio arglwyddiaeth Llŷn fel aer ei ewythr, Owen Goch. Mab iddo oedd Owen ap Thomas ap Rhodri neu Owen Lawgoch [q.v.].

Llyfryddiaeth:

  • Trans. Cymm., 1899-1900, 37-51.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth