Gŵr aml ei ddoniau oedd ‘Myfyr Emlyn.’ Daeth yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, a chyhoeddwyd pregethau o'i eiddo yn Spence-Exall (gol.), Pulpit Commentary. Yr oedd yn arweinydd eisteddfodol poblogaidd, a byddai galw mawr arno i ddarlithio ar bynciau fel ‘Gomer,’ Caleb Morris, Fetter Lane (yntau'n frodor o'r Eglwys Wen), enwogion y pulpud Cymraeg, a'i daith i America yn 1880. Yr oedd hefyd yn hoff o brydyddu, yn enwedig ar ffurf y farwnad, a chyhoeddwyd cyfrol o'i weithiau, yn y ddwy iaith, dan olygiaeth William Morris (‘Rhosynog,’ q.v.), Barddoniaeth Myfyr Emlyn, 1898, heblaw Marwnad R. A. Rees (Rhys Dyfed) Rhydlewis, 1868, a marwnadau yn E. Pan Jones, Cofiant Samuel Griffiths, Horeb, 1879, a J. P. Williams, Cofiant Thomas Williams, Llangunog, 1887. Ond cofir amdano'n bennaf heddiw efallai am ei gofiannau Cofiant … Owen Griffiths, … Gelli a Blaenconin, swydd Benfro, 1889, ac uwchlaw popeth o'i eiddo Cofiant Dafydd Evans, Ffynonhenry, 1870 (a phedwar argraffiad diweddarach), a Ffraethebion Dafydd Evans, Ffynonhenry, 1908 [q.v.], a seiliwyd ar y cofiant. Bu'n olygydd Seren Cymru o 1887 hyd ei farw, a thraddododd anerchiad ar Fedyddwyr Aberteifi a'r cylch yng nghyfarfodydd yr Undeb yno yn 1888. Bu'n gymorth i sefydlu achos yng Nghwmduad yn y cyfnod 1868-9, a bu'n amlwg iawn yn nadl uno colegau ei enwad yn yr 80au diweddar a'r 90au cynnar. Yn wleidyddol, Rhyddfrydwr pybyr ydoedd, fel y dengys rhai o'i gerddi, megis ‘Gladstone’ ac ‘Etholiad sir Benfro.'
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth