Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS (TEULU), Coed Alun ac Aber , sir Gaernarfon . Yn sir Gaerfyrddin yr oedd gwreiddiau'r teulu, a threiglid eu disgyniad o Lywelyn Foethus. Yn nechrau'r 16eg g. pennaeth y teulu ydoedd Syr WILLIAM THOMAS, Llangathen. Dechreuwyd y cysylltiad ag Arfon pan briododd RHYS, mab Syr William, â Sian, merch Syr John Puleston, Caernarfon. Rhys Thomas oedd siryf sir Gaernarfon yn 1573-4, a siryf Môn 10 mlynedd cyn hynny. Dygwyd ei fab WILLIAM THOMAS (bu f. 1586), i fyny yn llys y dduges Somerset, a chafodd yr un manteision addysg â mab y dduges — trwy hyn daeth yn gyfarwydd â Lladin, Eidaleg, Sbaeneg, a Saesneg; medrai Gymraeg hefyd ond odid. Priododd Elin, ferch William Gruffydd, Caernarfon, un o feibion Syr William Gruffydd o'r Penrhyn. Bu'n siryf Caernarfon, yn 1580-1, yn aelod seneddol dros y sir yn 1584-5, ac mewn gwasanaeth milwrol yn Iwerddon. Yn 1586 yr oedd yn gapten ar 200 o Gymry a aeth gyda Syr Philip Sidney i'r Iseldiroedd ac yn ysgarmes Zutphen yr un flwyddyn lladdwyd Syr Philip a'r capten William Thomas, a bu arwyl hir ar ôl y capten yn Arfon megis y bu ar ôl Sidney yn Lloegr. Gadawodd y capten naw o blant ar ei ôl — y cwbl dan oed. Ymhen 10 mlynedd ailbriododd ei weddw â'r capten Rhisiart Gwyn, Hirdrefaig. Bu ef f. yn 1618 a hithau yn 1628. Daethai maenol Aber i feddiant y teulu ac ag Aber y cysylltir eu henwau rhagllaw. Gwnaed WILLIAM THOMAS (bu f. 1633), mab y capten, yn farchog ar ddydd coroni Iago I yn 1603, a bu'n siryf Caernarfon yn 1607-8. Trwy ei ymlyniad wrth Syr John Wynn o Wydir daeth i gryn safle o ddylanwad yn y sir am flynyddoedd. Bu f. yn 1633, a dilynwyd ef gan ei fab WILLIAM THOMAS. Enillodd hwn sedd Arfon yn etholiad Tachwedd 1640, a bu'n aelod o'r Senedd Faith hyd oni fwriwyd ef allan gan y gwrthfrenhinwyr oherwydd iddo ymuno â Siarl I yn Rhydychen. Gwnaethai gryn enw iddo'i hun ar bwys rhai areithiau yn y Senedd. Ar ôl yr Adferiad daeth eilwaith yn amlwg ym mywyd y sir. Catrin, ferch yr esgob Richard Parry [q.v.], oedd ei wraig. Ar ei farwolaeth aeth y stad i ddwylo nai iddo, JOHN, mab ROBERT THOMAS (brawd William Thomas). Ni chynhaliwyd hen fri'r teulu gan yr etifeddion dilynol, ond gwasanaethasant eu bro eu hunain yn deilwng o'u safle. Trwy Robert Thomas aeth y stad i afael JOSEPH THOMAS (bu f. 1708), ac yna i RHYS THOMAS, yr hwn a ddilynwyd gan ei fab WILLIAM THOMAS (siryf Caernarfon, 1746-7); bu f. 1763. Yr etifedd nesaf ydoedd RHYS THOMAS (1746-1814), siryf Caernarfon yn 1771. Ar ei ôl daeth RHYS THOMAS ei fab, siryf Caernarfon yn 1831-2. Gan i'r Rhys Thomas olaf hwn (1771-1850 farw'n ddi-etifedd, aeth ei stad i ddwylo ei chwaer ELISABETH, priod Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch, Môn, a darfu am y llinach wrywaidd.

Llyfryddiaeth:

  • Cal. Wynn Papers;
  • J. E. Griffith, P.A.C.F., 202;
  • E. G. Jones, ‘The Caernarvonshire Squires’ (traethawd M.A.);
  • Trans. Caerns. Hist. Soc., 1940, 92-3 (T. Richards);
  • Mostyn MS. 145;
  • Llanst. MSS. 36, 49, 125;
  • Cymm., 1948.

Awdur:

William Gilbert Williams, M.A., (1874-1966), Rhostryfan

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS (TEULU), Coed Helen (neu Alun) ac Aber , sir Gaernarfon (Bywg., 878)

Yr oedd RICE THOMAS (bu f. 1577) a osododd sylfeini ffyniant y teulu hwn yn sir Gaernarfon, yn fab i Syr WILLIAM THOMAS, Llangathen, sir Gaerfyrddin, siryf y sir honno yn 1541-2. Priododd Jane, merch Syr John Puleston o Gaernarfon a gweddw Edward Gruffudd o'r Penrhyn, a fuasai f. yn Nulyn yn 1540. Penodwyd ef gan Roger Williams, arolygwr tiroedd y goron yng ngogledd Cymru, i fod yn ddirprwy iddo yn siroedd Môn, Caernarfon, a Meirionnydd. Yn ddiamau bu hyn yn gymorth iddo gael prydles o faenorau gwerthfawr Aber (sir Gaernarfon) a Chemaes (Môn) yn 1551. Yn 1553 llwyddodd ef a'i wraig i gael y ddwy faenor wedi eu trosglwyddo iddynt hwy eu hunain a'u hetifeddion (Cal. Pat. Rolls, 1553, 121). Ymddengys y cofnod cyntaf amdano fel ustus heddwch yn sir Gaernarfon yn 1552. Yr oedd yn siryf Môn yn 1563-4 a sir Gaernarfon yn 1573-4.


Ganwyd WILLIAM THOMAS 1551-1586), ei fab a'i aer, yng Nghaernarfon. Fel bachgen bu yng ngwasanaeth Duges Somerset, a dywedir iddo dderbyn ei addysg oddi wrth yr un athrawon â mab y dduges, yr Arglwydd Edward Somerset, ac iddo ddysgu tair iaith, Lladin, Eidaleg a Ffrangeg (Syr John Wynn o Wydir, Memoirs). Yr oedd yn filwr o fri a gwasanaethodd yn Iwerddon ac yn ddiweddarach yn Fflandrys. Gwnaeth ei ewyllys yn 1584 ‘by reason I am imployed in her maiesties service in Flaunders’ (P.C.C., Spencer, 2). Dywaid Syr John Wynn ei fod yn gapten ar 200 o wŷr gogledd Cymru a aeth i'r Iseldiroedd gydag Iarll Leicester, ac iddo gael ei ladd ym mrwydr Zutphen (1586). Priodasai Ellen, merch William Gruffydd o Gaernarfon, mab Syr William Gruffydd o'r Penrhyn, a bu iddynt 9 o blant. Yr oedd yn ustus heddwch dros sir Gaernarfon o c. 1575, yn siryf yn 1580-1581, ac yn aelod seneddol dros y sir yn 1574 a 1584. Ym mis Ion. 1581, prynodd diroedd yn Llŷn, a fuasai'n eiddo abaty Enlli, oddi wrth Iarll Leicester. Gadawodd ar ei ôl diroedd yn sir Gaerfyrddin yn ogystal â'i ystadau ym Môn ac yn sir Gaernarfon.


G. ei fab hynaf a'i aer, Syr WILLIAM THOMAS (a urddwyd yn farchog yn 1603) yn 1572, ac addysgwyd ef yng ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen (cofrestrwyd ef 24 Mai 1588, B.A., 28 Ion. 1592). Bu'n ustus heddwch a dirprwy raglaw sir Gaernarfon, ac yn siryf yn 1607-8, a phenodwyd ef yn aelod o Gyngor y Gororau y 1617 (Hist. MSS. Comm., 13th Report, App., IV, 254). Yr oedd yn bleidiwr amlwg a chyson i Syr John Wynn o Wydir. Yn 1605 gwnaeth ymgais i feddiannu ‘Koydalen’, Caernarfon (a ddaeth yn gartref i'r teulu yn ddiweddarach), a cheisiodd gymorth Syr John Wynn yn y gorchwyl (Cal. Wynn Papers, 343). Yr oedd gan y teulu eisoes diroedd ym mwrdeistref Caernarfon, ac yn y dref honno yr oedd prif blasty Syr William bob amser, er iddo, c. 1600, adeiladu tŷ newydd ym maenor Aber, ger safle tŷ hŷn, a adeiladesid, yn ôl pob tebyg, gan ei dad neu ei daid. Saif tŷ Syr William yn Aber, plasty Jacobaidd cymhedrol ei faint â thŵr iddo, hyd heddiw. Gelwid ef, o leiaf o 1672 ymlaen, yn Pen-y-bryn. Yn 1609, yn unol â chomisiwn brenhinol er cadarnhau hawliau diffygiol, gorfodwyd Syr William i dalu £56. 13s. 4d. i'r goron am drosglwyddiad maenorau Aber a Chemaes. Bu f. yng Nghaernarfon yn 1634 gan adael gweddw, chwe mab a dwy ferch. Am ryw reswm anhysbys, dietifeddodd ei fab hynaf, John, yn 1618, gan drosglwyddo etifeddiaeth y rhan fwyaf o'r ystad i'w ail fab (P.R.O., C142/534/112, inq. post mortem), ond yn ei ewyllys gadawodd i John hanner y daliad a elwid ‘Y Fferme Vowre’ yn maenor Cemaes, a hawl ar diroedd eraill ym Môn a fyddai heb eu gwerthu ar ôl talu cyfrannau'r merched a'r pedwar brawd ieuaf. Cawsai John hyn ar yr amod nad oedd i geisio gwrthwynebu trefniant ei dad o'r ystadau. Penododd Syr William ei wraig, Gaynor, yn unig ysgutor ei ewyllys (P.C.C., 113, Seager).


Etifeddodd yr ail fab, WILLIAM THOMAS, holl ystadau'r teulu yn sir Gaernarfon, sef maenor Aber ac amryw diroedd ac eiddo yng Nghaernarfon a lleoedd eraill gan gynnwys ‘Coed Alen’, a hwyrach diroedd hefyd ym Môn. Erbyn 1618 yr oedd yn briod â Catherine, merch Richard Parry, esgob Llanelwy (Bywg., 695). Pan fu farw ei dad, yr oedd gan William ddau fab, Richard a Gruffydd. Derbyniwyd ef fel efrydydd yn Gray's Inn ym mlwyddyn ei briodas. Ef oedd y cyntaf o'r teulu i'w gysylltu yn bennaf ag Aber, ac felly rhaid ei fod wedi sefydlu ei gartref ym Mhen-y-Bryn. Bu'n ustus heddwch dros sir Gaernarfon, ac yn siryf yn 1637-8. Ef oedd yr aelod seneddol dros fwrdeistref Caernarfon yn y Senedd Hir, a chreodd beth cynnwrf drwy ei araith yn erbyn deoniaid a chabidyldai, ac areithiau eraill. Ym mis Gorff. 1642, fodd bynnag, ymadawodd i ymuno â'r brenin, ac ym mis Chwef. 1644 difreiniwyd ef gan y Senedd am gefnu ar wasanaeth y Tŷ, bod yng ngwersyll y brenin a glynu wrth y blaid honno (‘adhering to that party’). Yn yr un mis gwobrwywyd ef gan y brenin drwy ei benodi yn was ystafell i'r frenhines (Cal. S.P. Dom, 1644, 14). Gorfodogwyd ei ystadau gan y Senedd. Ym mis Gorff. 1650 cyfeiriodd mewn llythyr at yr hyn a ddioddefasai oddi wrth y ddwy blaid, nid yn unig oddi ar y gwrthryfel diwethaf ym Môn, ond am flynyddoedd lawer cyn hynny. Cyfeiriodd hefyd at ei angen dybryd (llsgrau. Llanfair-Brynodol 150 yn Ll.G.C.). Yn 1651 medrodd gompowndio am £780, ac yn ddiweddarach gostyngwyd y ddirwy i £646. Bu f. ym mis Mawrth 1654 gan adael i'w fab hynaf a'i aer,


RICHARD THOMAS, ystad mewn dyled drom. Aeth y teulu'n ôl yn y byd oherwydd y rhan a gymerasai William Thomas yn y Rhyfel Cartref, ac ni lwyddwyd fyth i adennill y safle cynt. Yr oedd Richard hefyd wedi compowndio yn 1651 am ei ymlyniad wrth y Brenin yn y rhyfel cyntaf a'r ail, pan oedd yn ieuanc yng ngwersyll y brenin. Ymddengys iddo fod bob amser yn brin o arian. Yn 1659 ceir ef yn gofyn i'w fodryb, y Foneddiges Grace Wynn o Wydir, am arian, ac yn cwyno bod ei wraig yn gwrthod rhoi dim iddo (Cal. Wynn Papers, 2208). Priododd ym mis Hyd. 1654, Dorothy, merch hynaf Edward Williams o'r Wig. Bu f. yn ddiblant yn gynnar yn 1666. Yn ei ewyllys gofynasai am gael ei gladdu yn eglwys Aber.


Dilynwyd ef gan ei frawd, GRUFFYDD THOMAS, a oedd, fel Richard, yn amlwg yn gyfarwydd â'r angen am arian, tra bu'r ystad yn ei feddiant (P.R.O., C7/339/71). Bu f. yn ddiblant yn 1676. Etifeddwyd yr ystad gan


JOHN THOMAS , yr etifedd nesaf ar ôl marw Gruffydd Thomas a oedd yn denant am ei oes (ibid.). Ymddengys mai cefnder oedd ef, sef mab hynaf Robert Thomas, ewythr Gruffydd. Priododd Jane, gweddw Gruffydd, c. 1678. Ceir tystiolaeth a awgryma iddo fod yn byw yn Eglwys Gymyn, sir Gaerfyrddin, cyn etifeddu ystadau teulu Thomas yn sir Gaernarfon (llsgrau. Garthewin 2077 yng ngholeg y brifysgol Bangor), ac iddo'i gael ei hun yn brin o arian yn fuan ar ôl etifeddu. Fel canlyniad i'r prinder hwn, bu trafodaeth rhyngddo â theulu Bulkeley, Baron Hill, Biwmaris, yn 1678 ynglŷn ag adfowson Aber a thiroedd o fewn y faenor honno (llsgrau. Baron Hill 3133 yng ngholeg y brifysgol, Bangor). Daeth yr adfowson i feddiant Arglwydd Bulkeley, ac yn 1680 ymddengys iddo gael meddiant hefyd o'r faenor, ond dros dro yn unig, oherwydd yr oedd John Thomas yn sicr yn arglwydd maenor Aber o leiaf o 1686 hyd ei farw. Awgryma'r ffaith fod John Thomas wedi ei benodi yn siryf sir Gaernarfon am 1693-4, i'r teulu adennill i raddau eu golud cynt. Ymddengys iddo ef, fel Richard a Gruffydd o'i flaen, fyw yn bennaf ym Mhen-y-Bryn, Aber. Yr oedd ganddo fab, William, a gofrestrwyd yng ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 1698 pan oedd yn 18 oed, ond rhaid bod ei fab wedi marw o'i flaen. Pan fu John Thomas f. yn 1705 dilynwyd ef gan ei frawd,


JOSEPH THOMAS , clerigwr. Ar ôl marw John Thomas ymddengys i faenor Aber fyned allan o feddiant teulu Thomas. Erbyn 1715 yr oedd yn ddiamau ym meddiant Richard, is-iarll Bulkeley, Baron Hill. O hynny ymlaen cysylltid teulu Thomas â Choed Helen, sir Gaernarfon.

Dywedir i Joseph Thomas farw yn 1708. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf,



RICE THOMAS , a dderbyniwyd fel aelod o'r Middle Temple yn 1714, a'i wneud yn fargyfreithiwr yn 1720. Bu f. yn 1722 a dilynwyd ef gan ei fab, WILLIAM THOMAS, siryf sir Gaernarfon yn 1746. Yn 1753 dug William achos aflwyddiannus yn erbyn Thomas James, Arglwydd Bulkeley, yn Llys y Siawnsri, gan hawlio adfowson Aber (llsgrau. Llanfair-Brynodol yn Ll.G.C.; llsgrau. Baron Hill, 4590 yng ngholeg y brifysgol, Bangor). Bu f. yn 1763, a dilynwyd ef gan RICE THOMAS (1746-1814), siryf sir Gaernarfon yn 1771, a ddilynwyd yn ei dro gan ei fab, o'r un enw (1771-1850), siryf sir Gaernarfon yn 1831-1832, bonheddwr tawel, gwledig, yr olaf o'r teulu yn y llinach wrywaidd union. Priodasai ei chwaer, Elizabeth, Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch, Môn, yn 1792 (gw. dan Hughes, William Bulkeley; Bywg., 372). Y Parch. Rice Robert Hughes (1800-1850) oedd ail fab y briodas hon, a'i fab hynaf ef, RICE WILLIAM THOMAS (1841-1892), a etifeddodd ystad Coed Helen, gan fabwysiadu'r cyfenw Thomas.

Llyfryddiaeth:

  • Dwnn, i, 27, ii, 152-3;
  • E. A. Lewis a J. Conway Davies, Records of the Court of Augmentations relating to Wales 63, 276, 278, 302;
  • Sir John Wynn, Hist. Gwydir Family, gol. J. Ballinger (1927), 66-7;
  • Flenley, Register, 135;
  • E. G. Jones, ‘The Caernarvonshire Squires’ (traethawd M.A.);
  • Foster. Alumni Oxon.;
  • Inv. Caerns., i, 3;
  • Register of Admissions to Gray's Inn, 151;
  • Parl. Hist. (1753), ix, 15;
  • W. R. Williams, Parl. Hist., 50, 66;
  • A. H. Dodd, Trans. Cymm. (1948), 51;
  • Cal. Ctte. for Compounding, iv, 2740-1, 2820;
  • A. Ivor Pryce, Dioc. Bangor During Three Cents., ii;
  • Adm. to Middle Temple, 273-4;
  • Burke's…Peerage (1937), 1180;
  • List of Sheriffs (P.R.O.);, LR I /213, 215, 222, Sta. Cha. 5/W49/7, 5/J12/23, 8/284/9, Chancery Pdgs. C5/565/67, C6/133/215;
  • Llawysgrifau Llanfair a Brynodol yn Ll.G.C., 94, 98;
  • ewyl'ysiau esgobaeth Bangor yn Ll.G.C.;
  • llawysgrifau Garthewin 2080, 2089, yng ngholeg y Brifysgol, Bangor;
  • llawysgrifau Plas Coch 3264, 3267;
  • cofnodion Cwrt Sesiwn Chwarter sir Gaernarfon, 1640, 1652, 1680, 1686, 1704, 1715;
  • llawysgrifau Coed Helen.

Awdur:

Yr Athro William Ogwen Williams, M.A., D.A.A., (1924-1969), Aberystwyth / Bangor