Cafodd ‘ Dafydd Ddu ’ wyth mis o ysgol gyda John Morgan [q.v.] , curad Llanberis . Yno y cyfarfu ag Abraham Williams [q.v.] o'r Cwmglas , a thrwyddo daeth i wybod am farddoniaeth Gymraeg . Cafodd fenthyg llyfrau Cymraeg gan Abraham Williams a thrwyddo ef y cafodd wybod am Ddafydd Elis [q.v.] (‘ Person Criceth ’) a fuasai yn gurad yn Llanberis o flaen John Morgan . Cafodd fenthyg copïau Dafydd Elis o waith yr henfeirdd a gwnaeth yntau gasgliad o gywyddau ac englynion allan o'r llawysgrifau a'u rhoi yn y llyfr llawysgrif — ‘ Golwg ar Parnassus a Helicon .’ Ar ôl gadael yr ysgol gweithiai waith gwehydd yn y Waun Fawr ac âi i Gaernarfon i weled ‘ Robin Ddu yr ail o Fôn ’ ( Robert Hughes ) [q.v.] , a ddaethai yno wedi colli ei iechyd yn Llundain . Clywodd ganddo am gyfarfodydd y beirdd yn y tafarnau yn Llundain ac yn niwedd y gaeaf 1783-4 canodd ‘ Dafydd Ddu ’ gân, ‘ Gwahoddiad i'r Prydyddion ddyfod i'r Betws bach Noswyl Fair ar y mesur a elwir Bel Eil March , a daeth ‘ Hywel Eryri ,’ William Bifan , ‘ Sion Caeronwy ,’ Siân Parri , ac eraill yno, a dyna gychwyn cyfarfodydd y beirdd yn Arfon lle câi ‘ Dafydd ’ gyfle i ddysgu rheolau barddoniaeth i'w ‘gywion,’ fel y gelwir hwynt.
Ar 14 Gorffennaf 1787 rhoes heibio waith gwehydd a dechrau cadw ysgol yn Llanddeiniolen . Aethai yno i ddechrau i weled ‘ Twm o'r Nant ’ a'i gyfeillion yn chwarae anterliwd, ac anogwyd ef y pryd hwnnw i roi cynnig ar gadw ysgol , a bu'n dilyn y gorchwyl hwnnw yn Llanddeiniolen , Betws Garmon , Llanystumdwy , Pentraeth , y Waun Fawr , Llanrug , Llanberis , a'r Dolydd Byrion , Llandwrog . O 1807 i 1810 bu'n brysur yn casglu'r defnyddiau ar gyfer ei lyfr, Corff y Gainc , yn teithio i Ddolgellau i wylio ei argraffu, ac yna'n crwydro i Lerpwl a mannau eraill i'w werthu.
Yr oedd ‘ Dafydd Ddu ’ a William Williams , Llandegai [q.v.] , yn aelodau gohebol o Gymdeithas y Gwyneddigion a hwy a weithredai dros y gymdeithas honno yng Ngogledd Cymru am gyfnod. Iddynt hwy ill dau yr anfonid eu llyfrau, fel Gwaith Dafydd ab Gwilym , 1789 , i'w gwerthu; atynt hwy yr anfonid am ddefnyddiau ar gyfer y Myvyrian Archaiology , ac ar ôl i ‘ Dafydd ’ ennill eu ‘ tlws ’ ddwywaith am yr awdl yn Llanelwy a Llanrwst gofynnai'r Gwyneddigion iddo drefnu eu heisteddfodau , megis eisteddfod Penmorfa yn 1795 , ac arno ef y disgynnodd llawer o'r gwaith trefnu a beirniadu'r farddoniaeth yn eisteddfod Caernarfon , 1821 . Ni chytunai â syniadau rhai o wŷr Llundain am y Chwyldro yn Ffrainc ac ni dderbyniai ddulliau rhyfedd William Owen Pughe o ysgrifennu Cymraeg . Cytunai â hwynt y byddai'n ‘ fuddiol rhoi ychwaneg o ryddid i feirdd Cymreig ,’ ond y dylid ‘ cymryd yn gynnil rhag torri adwy i rimynwyr anurddasol ddyfod i mewn i wladwriaeth awen .’ Yr oedd ef yn sicrach awdurdod ar reolau barddoniaeth gaeth na neb yn ei gyfnod, a dywaid Syr John Morris-Jones mai trefniant ‘ Dafydd Ddu ’ wedi ei newid gan ‘ Bardd Nantglyn ’ ( Robert Davies ) [q.v.] , ac wedi ei ddiwygio, naill ai gan ‘ Dafydd Ddu ’ ei hunan neu rywun arall, oedd prif sail yr hyn a sgrifennwyd ar y gynghanedd yn y 19eg g.
Ychydig o'i waith a apeliai at ddarllenwyr heddiw. Gellid nodi ei englynion beddargraff a'i gywydd ar agoriad eisteddfod Caernarfon yn 1821 fel yr enghreifftiau gorau o'i farddoniaeth gaeth, a ‘ Fy Annwyl Fam fy Hunan ,’ cyfieithiad o'r gân Saesneg ‘ My Mother ,’ fel enghraifft o gyfieithiad a barhaodd yn boblogaidd wedi i'r gân wreiddiol gael ei llwyr anghofio.
Treuliodd y flwyddyn olaf o'i oes yn y Fron Olau , Llanrug , ond crwydrai i weled cyfeillion yn yr ardaloedd cylchynol. Wrth ddychwelyd o Fangor o un o'r teithiau hynny syrthiodd wrth groesi afon Cegin wrth ymyl Bach Riffri a chafwyd ef wedi boddi ar 30 Mawrth 1822 . Claddwyd ef ym mynwent Llanfihangel yn Llanrug a rhoes ei gyfeillion gofadail ar ei fedd.
Heblaw Corff y Gainc a gyhoeddodd yn 1810 ymddangosodd llyfryn arall, Arddwriaeth Ymarferol , cyfieithiad o ddau draethawd Saesneg , o'i waith yn 1815 . Yr oedd ganddo ran hefyd mewn golygu y cyfnodolyn Greal neu Eurgrawn sef Trysorfa Gwybodaeth , argraffwyd ac ar werth gan T. Roberts , Caernarfon , 1800 , gyda ‘ Ieuan Lleyn ,’ a hefyd gyda'r Parch. P. Bailey Williams , Llanrug , mewn golygu Trysorfa Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg , Caernarfon , 1807 . Y mae 17 o'i ysgrifau yn y Cylchgrawn Cynmraeg , 1793-4 , ac yn eu plith ei ‘ Traethawd ar ddim ,’ y cynnig cyntaf i ysgrifennu ysgrif yn Gymraeg ar ddull y ‘light essay’ Saesneg , a cheir englynion a thraethawd o'i waith yn Geirgrawn ( Treffynnon , 1796 ).
Griffith Thomas Roberts, M.A., Llanrug.
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth.