THOMAS, DAVID (bu f. 1780?), gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanedi .
Yr unig hanes amdano sydd ar glawr yw'r hyn a geir yn H. Egl. Ann., iii, 504-5, lle y dywedir mai o'r Cilgwyn yng Ngheredigion y tarddai, ei fod yn byw yn Ffos-yr-efail, Llandeilo Fach, ei fod yn ŵr cefnog, ac iddo gael ei urddo tua 1739 yn weinidog Llanedi. Er na welir mo'i enw (am ryw reswm) yn rhestr W. D. Jeremy (copi yn N.L.W. MS. 362), gellir pigo ambell friwsionyn amdano o lawysgrifau. Y mae'n eglur oddi wrth gyfeiriadau sgornllyd Edmund Jones (dyddlyfr 1773) ato ei fod yn cyfeillachu ag Ariaid — awgrymir hefyd nad oedd yn ddirwestwr. Cyd-dery geiriau Edmund Jones, ‘old David Thomas,’ â'r ffaith i Evan Davies gael ei urddo (3 Awst 1775) yno — yn gyd-weinidog, meddai H. Egl. Ann. — a Thomas yn bresennol; ond yn unig lyfr eglwys Llanedi sydd ar gael (yn Somerset House; yn 1745 y dechrau), gelwir Davies yn ‘minister,’ ac yn ei ofal ef yr oedd prydles y tŷ-cwrdd. Dan 28 Mawrth 1778 y mae gan y llyfr eglwys gofnod fod ‘the major part of the congregation’ yn ymrwymo i dalu £5 yn flynyddol am ei oes i ‘The Rev. David Thomas, our old Pastor,’ ond gyda hynny restr o gymwynaswyr yr eglwys, yn cynnwys ‘£100 given by the Rev. Mr. David Thomas, Pastor of this Congregation' — tybed mai benthyg, dan log blynyddol, ond i'w faddau ar farw Thomas? Ymhlith papurau Thomas Morgan ‘Henllan y mae rhestr (N.L.W. MS. 5453) o weinidogion yng Nghymru a fu farw ar ôl 1760. Yr olaf ond un ohonynt yw ‘Mr. David Thomas of Llanedy’; ni roddir dyddiad, fel y digwydd, ond rhestr yn nhrefn amser yw hi, ac y mae enw Thomas rhwng 1779 a 1781.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.