Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, DAVID (1794-1882), un o arloeswyr y diwydiant haearn yn U.D.A.; g. 3 Tachwedd 1794, mab David a Jane Thomas, Tyllwyd, fferm ym mhlwyf Llangatwg-dyffryn-Nedd, sir Forgannwg. Cafodd beth addysg yn Alltwen (Pontardawe) a Chastell Nedd cyn iddo ddechrau gweithio ar y fferm gyda'i dad ac wedyn (1812) yn y Neath Abbey Iron Works. Yn 1817 yr oedd yng ngwaith haearn Ynyscedwyn a gofal ffwrneisiau, etc., arno. Yn ystod y 22 mlynedd y bu yn Ynyscedwyn bu'n gwneuthur arbrofion ar ddefnyddio glo carreg (‘anthracite’) fel cynnud wrth wneuthur haearn. Llwyddodd yn ei arbrofion, ac iddo ef y mae'r clod am wneuthur yr haearn ‘anthracite’ cyntaf a wnaethpwyd erioed. Fe'i gwahoddwyd gan y Lehigh Coal and Navigation Company, Pennsylvania, U.D.A., i fynd drosodd, ac aeth yntau yno ym mis Mehefin 1839. Erbyn 1840 yr oedd wedi peri gwneuthur cyfnewidiadau mawr yn y diwydiant haearn ac o hynny ymlaen llwyddodd yn fawr, gan ddyfod maes o law yn un o'r gwŵr enwocaf yn y diwydiant haearn yn U.D.A. Ffurfiodd yr eglwys Bresbyteraidd gyntaf yn Casanqua yn 1840. Bu f. 20 Mehefin 1882.

Llyfryddiaeth:

  • The Cambrian (Cincinnati), 1885, 104-8, 133-6;
  • Y Drych (Utica), 11 Mawrth 1909;
  • Hanes Cymry America, 163;
  • Edwards, Welshmen as Factors;
  • The Red Dragon, 1883, 289.

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor